Yn ein cyfres Torri Tir, mi fydd ein tîm o gynghorwyr twf ac uwchraddio yn ateb eich cwestiynau. Yn y rhifyn hwn, rydym yn siarad ag Alun, Cyfarwyddwr Cyllid BIC.
Mae Alun yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym maes cyllid o weithrediad ymarferol systemau ariannol i gyfarwyddiaeth ariannol cwmni FTSE 250, a rheoli is-gwmnïau. Fodd bynnag, nid yw ei brofiad yn gyfyngedig i’r sector cwmnïau mawr. Am y pymtheng mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn gweithio gyda busnesau newydd a busnesau bach a chanolig yn darparu cyngor busnes strategol, darparu cynlluniau busnes, modelu amcanestyniadau ariannol a darparu ystod o wasanaethau ariannol a busnes.
C. Rwy’n dod yn fwy caeth i’m desg wrth i’m cwmni dyfu ond mae angen i mi wybod beth sy’n digwydd o hyd. Sut ydw i’n gallu datblygu system gwybodaeth reoli sy’n fy hysbysu heb orfod ymwneud â’r gwaith yn llythrennol?
A. Rydych chi eisoes wedi adnabod gwireb twf busnes: gall y bos ddim gwneud popeth! Efallai mai’r cam cyntaf fyddai penderfynu beth rydych chi’n hoffi ei wneud a beth nad ydych chi’n hoffi ei wneud – sy’n aml yn cyd-fynd â’r hyn rydych chi’n dda yn ei wneud a’r hyn nad ydych chi’n dda yn ei wneud. Unwaith y byddwch chi’n gwybod hynny, mi ddaw hi’n amlwg beth rydych chi am i eraill ei wneud.
Wrth i chi dyfu, mae’n debyg eich bod chi’n recriwtio gweithwyr newydd. Ydych chi’n recriwtio rhai gyda’r sgiliau hynny yr ydych chi am eu dirprwyo? Sy’n dod â ni at wireb twf busnes arall – recriwtiwch bobl sy’n well na chi bob amser!
Gadewch i ni dybio eich bod y tu ôl i’ch desg ac nad oes gennych gymaint o amser ag o’r blaen i fod mewn cysylltiad uniongyrchol â gweithrediadau. Felly, beth ydych chi eisiau ei wybod? Mynegiad sy’n cael ei orddefnyddio lawer – beth yw eich dangosyddion perfformiad allweddol? Fel canllaw, mae’r rhain yn ddangosyddion a fyddai’n dylanwadu ar eich penderfyniadau. Ceisiwch eu hysgrifennu i lawr a phenderfynu o ble y gallai’r wybodaeth ddod.
Mewn sefydliadau mawr, y cyfrifydd rheoli sy’n gyfrifol am gynhyrchu gwybodaeth reoli – boed yn ariannol neu fel arall. A ydych wedi cyrraedd maint a fyddai’n cyfiawnhau recriwtio cyfrifydd? Os na, a ydych chi wedi ystyried prynu’r arbenigedd yn rhan-amser?
Mae yna fynegiant gyda gwybodaeth reoli sy’n dweud “rubbish in – rubbish out”. Felly, pan fyddwch chi wedi penderfynu pa wybodaeth dda rydych chi ei eisiau, mae angen i chi sefydlu:
- Bod data cywir, perthnasol ac amserol yn cael ei gasglu
- Bod gennych systemau sy’n trosi data da yn wybodaeth ddefnyddiol
Peidiwch â gwneud y camgymeriad o feddwl bod systemau gwybodaeth gyfrifiadurol yn arbed amser. Maent yn gofyn am gasglu data disgybledig a chywir a bod pensaernïaeth y systemau yn addas ar gyfer cynhyrchu adroddiadau defnyddiol ar gyfer eich busnes.
I grynhoi:
- Penderfynwch eich bod yn barod i fuddsoddi amser ac arian i gynhyrchu gwybodaeth reoli dda
- Penderfynwch ar y wybodaeth rydych chi ei eisiau
- Gweithio’n ôl y data sy’n ofynnol i gynhyrchu’r wybodaeth
- Dewch o hyd i system gyfrifiadurol sy’n gallu cyflawni’ch gofynion
Yn olaf, peidiwch feddwl bod angen i chi fuddsoddi cannoedd o bunnoedd. Rydym wedi gweld mwy o fusnesau yn cael trafferth gyda systemau gor-benodol nag y maent y defnyddio systemau sydd ddim mor sbesiffig. Os ydych chi yng nghyfnod cynnar eich twf, mae’n ddigon posib mai’r cyfan sydd ei angen arnoch yw pecyn cyfrifon sylfaenol a sgiliau Excel.
Gall ein harbenigwyr tyfiant helpu eich tîm rheoli i ganolbwyntio ar y camau nesaf sydd eu hangen ar gyfer tyfu. P’un a yw’r gefnogaeth honno’n dod trwy arweinyddiaeth uwchraddio, cefnogaeth i weithredu’ch cynlluniau twf neu helpu i oresgyn rhwystrau, gall ein tîm eich tywys ar eich taith i dyfu. Os hoffech drafod eich gofynion gwybodaeth reoli, mae croeso i chi gysylltu â ni.