Yn ein cyfres Torri Tir, mi fydd ein tîm o gynghorwyr twf ac uwchraddio yn ateb eich cwestiynau. Yn y rhifyn hwn, rydym yn siarad ag Alun, Cyfarwyddwr Cyllid BIC.
Mae Alun yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym maes cyllid o weithrediad ymarferol systemau ariannol i gyfarwyddiaeth ariannol cwmni FTSE 250, a rheoli is-gwmnïau. Fodd bynnag, nid yw ei brofiad yn gyfyngedig i’r sector cwmnïau mawr. Am y pymtheng mlynedd diwethaf mae Alun wedi bod yn gweithio gyda busnesau newydd a busnesau bach a chanolig yn darparu cyngor busnes strategol, darparu cynlluniau busnes, modelu amcanestyniadau ariannol a darparu ystod o wasanaethau ariannol a busnes.
C. Rydym yn bwriadu cynyddu cynhyrchiant ond mae angen inni fuddsoddi mewn peiriannau newydd. Sut dylen ni fynd ati i godi arian?
A. Wrth ateb, dwi’n cymryd bod y cyllid a geisir naill ai’n gyllid asedau neu’n fenthyciad tymor. Fodd bynnag, nodwch fod yna lwybrau posibl eraill ac efallai y byddai’n ddoeth ystyried dewisiadau amgen cyn ymrwymo i gyllid asedau / benthyciad tymor.
Rwy’n siŵr eich bod eisoes wedi gwneud eich gwaith cartref ar hyn ond i roi ateb cyflawn, y camau hanfodol cyntaf yw ystyried rhai cwestiynau sylfaenol:
- A oes galw am y cynhyrchiad cynyddol arfaethedig?
- Oes gennych chi’r lle i osod y peiriannau newydd yn ddiogel ac yn effeithiol?
- A fydd gennych chi’r wybodaeth a’r llafur i redeg y peiriannau newydd?
- A yw’r peiriannau’n dod o ffynhonnell ddibynadwy a fydd yn darparu gwaith atgyweirio a chynnal a chadw os oes angen?
- A ydych wedi ystyried effaith ariannol lawn prynu’r peiriannau newydd? Yn benodol, a ydych chi wedi ystyried effaith ariannol cynnydd mewn cyfalaf gweithio (mae’n debyg y byddwch chi’n cario mwy o stoc a mwy o ddyledwyr masnach os bydd cynhyrchiant yn cynyddu).
Gan dybio bod y “gwaith cartref” hwn wedi’i wneud, ceisiwch roi eich hun yn esgidiau darparwr cyllid. Beth maen nhw eisiau ei wybod? Yn syml iawn, maen nhw eisiau cael eu hargyhoeddi y byddan nhw’n cael eu harian wedi’i ad-dalu gyda llog. Felly, sut ydych chi’n eu darbwyllo?
- A yw’ch cyfrifon yn gyfredol? Fel arfer, bydd cyllidwyr eisiau gweld cyfrifon blynyddol hanesyddol llawn a chyfrifon rheoli diweddaraf. Oes gennych chi nhw? Ydyn nhw’n dangos eich bod yn fusnes da, proffidiol?
- Oes gennych chi ragamcanion ariannol sy’n cwmpasu’r cyfnod o osod y peiriannau newydd a’r blynyddoedd cynnar (o leiaf) o ad-dalu benthyciad gyda llog?
- Pe bai darpar ddarparwr cyllid yn ymweld â’ch busnes, a fyddent yn cael argraff o fusnes sy’n cael ei redeg yn effeithlon a’i reoli’n dda?
- A fydd darparwr cronfa yn dod o hyd i unrhyw fwganod o fewn eich cwmni? Unrhyw fusnesau a fethwyd yn flaenorol? Sicrhewch fod gennych esboniad yn barod.
- A oes gennych unrhyw gyfamodau banc neu amodau benthyciad blaenorol a fyddai’n cyfyngu ar y gallu cyfredol i fenthyca?
- A fyddech chi’n barod i ddarparu gwarant bersonol os gofynnir am hynny? Nid yw hyn yn rhywbeth y byddem yn ei argymell ond mae darparwyr cyllid yn gofyn amdano’n aml.
Gall ein harbenigwyr tyfiant helpu eich tîm rheoli i ganolbwyntio ar y camau nesaf sydd eu hangen ar gyfer tyfu. P’un a yw’r gefnogaeth honno’n dod trwy arweinyddiaeth uwchraddio, cefnogaeth i weithredu’ch cynlluniau twf neu helpu i oresgyn rhwystrau, gall ein tîm eich tywys ar eich taith i dyfu. Os hoffech drafod agweddau ariannol a / neu dechnegol eich cynlluniau gyda thîm profiadol, cysylltwch â ni.