Mae cael strategaeth yn hanfodol i fusnesau llwyddiannus ac yn torri ar draws holl swyddogaethau gweithredol.
Mae’r strategaeth busnes yn nodi’r cyfeiriad y dylai’r busnes fynd, ei fwriad a’i uchelgeisiau; yna, yn cynllunio ar gyfer sut y bydd y busnes yn gweithio tuag at y bwriadau a’r uchelgeisiau hynny.
Dylai eich cynllun strategol ganolbwyntio ar amcanion tymor canolig i hirdymor, a phennu’r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na chanolbwyntio ar enillion tymor byr. Ni ddylid gadael eich strategaeth i gasglu llwch a bod yn segur. Mae yna lawer o resymau ac achlysuron i ailedrych ar eich strategaeth. Boed hynny ar adegau o newid yn y busnes, wrth lansio gwasanaeth neu gynnyrch newydd, i weddnewid busnes sy’n methu, neu wrth ehangu eich busnes, gwasanaethau neu gynnyrch.
Fel y profir yn 2020, does dim ots faint o gynllunio na rhagweld, mae’n amhosib rhagweld beth sydd rownd y gornel. Fodd bynnag, mae un peth yn sicr, mae busnesau’n gwynebu cyfnod heriol; ond y rhai ystwyth, arloesol a gwydn yw’r rhai a fydd nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu ac yn tyfu.
I ddechrau, nid oes angen unrhyw offer na meddalwedd ffansi arnoch ar gyfer cynllunio strategol. Bydd trafodaethau strwythuredig gyda siartiau a nodiadau post-it yn sicrhau eich bod ar y trywydd cywir.
Er mwyn dechrau mynd i’r afael â’ch proses cynllunio strategol, diffiniwch y 10 maes allweddol hyn:
- Y cynlluniau sydd eu hangen – beth ydym yn cynllunio ar ei gyfer a sut gall hyn integreiddio gyda chynlluniau/meysydd busnes/timau/amcanion eraill – gosod y ffiniau ond cydnabod y cysylltedd.
- Rhanddeiliaid allweddol – pwy fydd yn dylanwadu ar y cynlluniau, pwy fydd yn eu gweithredu a phwy fydd yn cael eu heffeithio ganddynt?
- Pobl allweddol– pwy yw’r noddwyr, eiriolwyr, cyfranogwyr a darpar wrthwynebwyr tebygol?
- Amcanion – beth ydym ni eisiau ei gyflawni, pam, ac erbyn pryd? Beth sy’n gyraeddadwy o ystyried y gyllideb a’r adnoddau sydd ar gael?
- Maint y Wobr– byddwch yn realistig ond gosodwch darged estynedig. Gwnewch yn siŵr bod yr elw posibl yn wirioneddol werth y buddsoddiad, yr egni, yr adnoddau ac unrhyw amhariad y bydd ei angen. A fyddai’r cynlluniau hyn yn cefnogi/hwyluso neu’n atal/rhwystro gweithgareddau eraill a beth yw goblygiadau cyffredinol hyn?
- Chwant – a yw’r busnes ehangach a/neu’r bobl hollbwysig yn cyfrannu at y cynlluniau, a gawn ni’r cymorth, cyllid ac adnoddau i gyflawni’r cynlluniau o fewn amserlen realistig?
- Mesurau a Metrigau SMART– sut ydym yn cadw cofnod o’n cynnydd? Sut a pha mor aml y byddwn yn adolygu hyn? Sut olwg fydd ar lwyddiant? Pa arwyddion/canlyniadau fyddai’n dechrau peri gofid?
- Anogaeth – ydyn ni’n gweithio’n dda gyda’n tîm, cwsmeriaid, buddsoddwyr, defnyddwyr ac ati? Sut y byddant yn rhan o gyflawni’r cynlluniau’n llwyddiannus, a ydynt yn fodlon, yn ymroddedig, yn frwdfrydig ac yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn ein dyfodol?
- Llwyddiannau a rhwystrau– beth allwn ni ei gyflawni’n gyflym i brofi bod y cynlluniau’n werth chweil, creu momentwm a chynnal y lefel o frwdfrydedd neu fuddsoddiad sydd ei angen. Beth fydd y pethau anoddaf i’w cyflawni a sut mae mynd i’r afael â’r rhain.
- Bygythiadau, Risgiau a Rhwystrau – beth allai fynd o’i le, beth gall ein rhwystro, sut gallai ein cystadleuwyr ymateb, sut gallai cwsmeriaid allweddol ymateb? Asesu risgiau tebygolrwydd ac effaith a chwilio am ffyrdd y gallem liniaru yn erbyn y ffactorau hyn
Mae yna wahanol ddulliau o wneud hyn gyda phob un yn dibynnu ar y sefyllfa a’r personoliaethau dan sylw.
Weithiau – os nad yw pethau’n debygol o fod yn rhy ddadleuol a’ch bod eisiau’r manteision o brofiad a safbwyntiau amrywiol – mae’n dda i ddod â phobl ynghyd a thrafod pethau fel tîm neu grŵp ehangach. Weithiau mae’n rhaid i chi ddethol pobl fesul un oherwydd sensitifrwydd, gwrthdaro personoliaeth neu wrthdaro rhwng amcanion neu safbwyntiau!
CYSYLLTIEDIG: Ein dulliau i atal perfformiad gwael…
Rydym yn helpu ein cleientiaid i fod yn greadigol yn eu meddwl strategol a throi’r syniadau hynny yn werth i’w busnes.