Dydd Mercher 2 Chwefror 2022 | 9:00-10:00 | Ar-lein Zoom
I ddechrau 2022 gan dynnu sylw at gyfleoedd allforio newydd posibl, maeClwstwr Allforio Bwyd a Diod Cymru wedi ymuno â Euromonitor i gyflwyno ar y tueddiadau bwyd a diod o fewn y Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer ardal Traws-Môr Tawel.

Mae’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth Traws-Môr Tawel yn gytundeb masnach rhwng Awstralia, Brunei, Canada, Chile, Japan, Malaysia, Mecsico, Seland Newydd, Periw, Singapôr a Fietnam, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2018. Mae’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth Traws-Môr Tawel yn cynrychioli tua 500 miliwn o bobl ac yn cynhyrchu mwy na 13% o incwm y byd. Roedd y rhanbarth yn cynrychioli 8% o allforion y DU yn 2019. Mantais allweddol aelodaeth yw mwy o fynediad i farchnadoedd ei gilydd, ac addewid i ddileu neu leihau 95% o daliadau neu dariffau mewnforio.
Y DU oedd yr aelod cyntaf heb ei sefydlu i wneud cais i ymuno â Chytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth Traws-Môr Tawel ym mis Mehefin 2021 ac, os bydd yn llwyddiannus, hon fyddai’r ail economi fwyaf ar ôl Japan o fewn y bartneriaeth. Gall cynhyrchion fod yn gymwys ar gyfer triniaeth ffafriol o ran rheolau tarddiad os yw 70% o’r cydrannau’n dod o unrhyw wledydd sy’n cymryd rhan. Mae gwledydd fel De Korea a Philippines hefyd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno yn y dyfodol.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma.