Digwyddiadau |
Published

Sut i Baratoi Cynnig Ariannol – Gweminar Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy

Dydd Mercher 16eg Chwefror 2022 • 15:00-16:00 • Zoom Ar-lein

Mae’r weminar hon yn cael ei chynnal gan y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yma i helpu busnesau bwyd a diod uchelgeisiol o Gymru i uwchraddio’n gynaliadwy.

Gweledigaeth y clwstwr yw adeiladu cymuned o fusnesau bwyd a diod o Gymru sy’n uchelgeisiol ac yn cynyddu, gan sbarduno twf economaidd y sector a’r cymunedau y mae’r busnesau hyn yn gweithredu ynddynt. Gallwch ddarllen mwy am y clwstwr ar wefan y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy

How to prepare a finance proposal

Am y digwyddiad

Os ydych yn fusnes bwyd a diod o Gymru ac yn ystyried buddsoddiad cyfalaf neu fenthyca arian i ehangu yn 2022, ymunwch â’r weminar hon gan y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy lle bydd panel o arbenigwyr yn trafod sut y gallwch gael gafael ar y cyllid sy’n iawn i chi a pharatoi achos busnes i gael benthyg arian neu ddenu buddsoddiad.

Bydd y panel yn trafod:

  • Ffynonellau a mathau o fuddsoddiad
  • Asesu cost arian
  • Prynu, gwerthu neu gydweithredu – beth yw’r opsiynau ar gyfer ehangu?
  • Mynediad at gyllid – pwysigrwydd gwybodaeth reoli dda

I gael rhagor o wybodaeth am y weminar hon ac i gofrestru, ewch i wefan y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy

Share this on:
We work with

Sign up to our newsletter and be the first to hear about news and events from BIC Innovation

This website uses cookies to give you the best user experience. If you choose to continue using this website, you agree to our use of cookies.