Straeon Gyrfa |
Published

Straeon Gyrfa BIC Innovation: Twf Gyrfa, Cydbwysedd Gwaith-Bywyd, a Diwylliant Cwmni

Yn BIC Innovation, credwn fod datblygiad gyrfaol, llesiant gweithwyr, a diwylliant cwmni cryf yn mynd law yn llaw. Nid dim ond gweithio yma mae ein tîm – maen nhw’n tyfu, yn dysgu, ac yn siapio dyfodol y cwmni. Yn y sesiwn holi ac ateb hon, rydym yn eistedd gyda Angharad Evans, Rheolwr Gweithrediadau Marchnata, i drafod ei thaith yn BIC, sut mae’r cwmni’n cefnogi ei weithwyr, a beth sy’n gwneud gweithio yma mor unigryw.

1. Beth sy’n gwneud i BIC sefyll ar wahân o gwmnïau eraill rwyt ti wedi gweithio iddyn nhw yn y gorffennol?

Ers ymuno â BIC saith a hanner mlynedd yn ôl, dw i wedi cael cymaint o gyfleoedd a rolau na fyddwn i erioed wedi dychmygu eu bod yn bosib. Dechreuais fel Cydlynydd Prosiect Bwyd, ac ar hyd y daith trwy rolau gwahanol, dw i bellach yn Rheolwr Gweithrediadau Marchnata BIC. Dw i wedi dysgu am allforio, ymweliadau masnach, a hyd yn oed arwain grŵp o fusnesau bwyd a diod i Qatar ar ymweliad masnach. Roedd hynny’n brofiad cyffrous iawn ac yn gam mawr o ran datblygiad personol.

Rhywbeth arall sy’n gwneud BIC yn wahanol yw ei fod yn fusnes sy’n berchen ar ei weithwyr – mae gen i gyfranddaliadau yn y cwmni. Mae’n braf gallu dweud fy mod i wedi buddsoddi ychydig yn BIC ac yn wirioneddol awyddus i’w weld yn tyfu ac yn llwyddo.

2. Sut mae’r cwmni’n hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a pa effaith mae hyn wedi’i chael arnat ti’n bersonol?

Mae BIC wastad wedi cynnig gweithio’n hyblyg, ac fel mam sengl i ddau blentyn, mae hynny wedi bod yn amhrisiadwy. Os yw un o’r plant yn sâl neu os oes angen i fi fynd i apwyntiad, dw i’n gwybod y gallaf wneud hynny heb straen. Mae hynny wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd gwaith a theuluol.

Mae hynny wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd gwaith a theuluol. Mae hyn yn rhywbeth sy’n gosod BIC ar wahân ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywyd bob dydd.

3. Alli di ddisgrifio unrhyw fentrau neu ddigwyddiadau sy’n cyfrannu at ddiwylliant y cwmni ac yn annog cyfathrebu agored rhwng staff?

Mae gan BIC rai mentrau gwych! Gan ein bod ni wedi’n lleoli ar ddau ben Cymru – ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ynys Môn – mae’n bwysig dod â chydweithwyr at ei gilydd. Weithiau mae’n hawdd mynd i’r arfer o ganolbwyntio ar dy brosiect dy hun, ond mae mentrau fel Coffee Roulette yn wych i gysylltu â phobl newydd neu i ddal i fyny gyda chydweithwyr.

ond mae mentrau fel Coffee Roulette yn wych i gysylltu â phobl newydd neu i ddal i fyny gyda chydweithwyr. Mae’n syml – rwyt ti’n cael dy baru gyda rhywun ac yn cael sgwrs nad yw’n ymwneud â gwaith.

O ganlyniad i hynny, rydyn ni nawr yn cynnal Project Roulette, lle mae pob prosiect yn rhannu’r hyn maen nhw’n ei wneud bob mis. Mae’n ffordd wych o gadw pawb yn y cwmni ar ben beth sy’n digwydd, gan fod cymaint o brosiectau’n rhedeg ar yr un pryd.

Un fenter arall sy’n llawer o hwyl yw Iaith yn y Gwaith. Os wyt ti’n dysgu Cymraeg yn BIC, rydyn ni’n dod at ein gilydd bob pythefnos i ymarfer. Mae’r siaradwyr Cymraeg yn cefnogi’r dysgwyr, ac rydyn ni’n cael hwyl yn dysgu am y diwylliant yn ogystal â’r iaith – gan gynnwys y gwahaniaethau rhwng Gogledd a De Cymru! Mae’n hwyl, yn anffurfiol, ac yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd, waeth beth fo’u cefndir.

Mae angerdd, hyblygrwydd ac ymroddiad Angharad yn adlewyrchiad gwirioneddol o’r hyn rydym yn ei werthfawrogi yn BIC, ac rydym yn ddiolchgar i’w chael yn rhan o’r tîm.

Am ymuno â’r tîm? Dewch i wybod mwy am gyfleoedd Gyrfa ac Associate yn BIC Innovation ar ein gwefan: bic-innovation.com/careers/

Share this on:
We work with

Sign up to our newsletter and be the first to hear about news and events from BIC Innovation

This website uses cookies to give you the best user experience. If you choose to continue using this website, you agree to our use of cookies.