Straeon Gyrfa |
Published

Straeon Gyrfa BIC Innovation: O Leoliad Gwaith i Yrfa 12 Mlynedd

Yn BIC Innovation, credwn mewn meithrin talent, darparu cyfleoedd, a chreu gweithle lle gall gweithwyr ffynnu. Mae llawer o’n tîm wedi datblygu eu gyrfaoedd gyda ni, gan feithrin sgiliau newydd a chymryd camau tuag at rolau arweinyddiaeth.

Yn y sesiwn holi ac ateb hon, rydym yn siarad ag Anna Pearce, Pennaeth Marchnata, a ddechreuodd yn BIC ar leoliad tymor byr ac sydd bellach yn arwain y tîm marchnata. Mae hi’n rhannu ei thaith gyrfa, y gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd, a pham mae BIC wedi bod yn y lle cywir iddi dyfu’n broffesiynol.

1. Alli di ddweud wrtha i am dy lwybr gyrfa hyd yma, a sut wnest ti gyrraedd dy rôl bresennol?

Rwyf wedi bod gyda BIC ers 12 mlynedd bellach, ond dechreuodd fy nhaith yma mewn ffordd nad oeddwn i’n ei ddisgwyl o gwbl. Ymunais ar leoliad GoWales chwe wythnos, yn syth o’r brifysgol, yn chwilio am gyfle i gael fy nhroed yn y drws a dechrau defnyddio fy sgiliau mewn amgylchedd proffesiynol.

Trodd y lleoliad byr hwnnw’n rôl lawn amser, ac oddi yno, fe wnes i barhau i ddatblygu—o Gynorthwyydd Prosiect i Gydlynydd Marchnata, yna’n Rheolwr Marchnata, ac yn awr yn Bennaeth Marchnata. Wrth edrych yn ôl, doedd gen i ddim syniad y byddwn i dal yma 12 mlynedd yn ddiweddarach, ond mae’r cyfleoedd rwyf wedi’u cael yn BIC wedi fy nghadw’n frwdfrydig, yn heriol, ac yn gyffrous am y cam nesaf.

2. Sut mae dy rôl wedi newid ers i ti ddechrau gweithio yma? A sut wyt ti wedi addasu i’r newidiadau hynny?

Dechreuais fy ngyrfa yn BIC gyda gradd mewn dylunio ar gyfer hysbysebu, ond sylweddolais yn gyflym bod marchnata yn ymwneud â llawer mwy na chreadigrwydd – mae’n ymwneud â strategaeth, datrys problemau, ac addysg barhaus. Trwy amgylchedd cefnogol BIC, ces i’r cyfle i archwilio gwahanol feysydd o farchnata a datblygu sgiliau newydd a fu’n allweddol i lunio fy ngyrfa.

Un o’r eiliadau mwyaf dylanwadol oedd pan symudais i swyddfa BIC yn Ne Cymru tua wyth mlynedd yn ôl.
Roedd y newid hwn yn golygu cyfrifoldebau newydd, heriau newydd, a safbwynt ffres. Mae pob cam o fy ngyrfa yn BIC wedi bod yn brofiad dysgu, a dyna beth rwy’n ei garu fwyaf am fy ngwaith yma—rwyt ti bob amser yn tyfu, yn addasu, ac yn cael cefnogaeth.

3. Pa sgiliau neu brofiadau penodol wyt ti wedi’u hennill ers ymuno a’r cwmni?

Un o’r elfennau mwyaf gwerthfawr o weithio yn BIC yw’r diwylliant dysgu parhaus. Rydym yn gweithredu menter o’r enw STEP Talks, sy’n helpu aelodau’r tîm i archwilio eu datblygiad gyrfaol a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. rwy hyn, fe wnes i drosglwyddo i waith marchnata mwy penodol—yn gyntaf gan gefnogi marchnata BIC ei hun, yna gan weithio’n uniongyrchol gyda chleientiaid ar frandio, dylunio graffig, archwiliadau marchnata, a datblygu strategaeth.

Mae gweithio ochr yn ochr â thîm amlddisgyblaethol talentog wedi bod yn newid byd. Mae pob prosiect yn dod â heriau newydd ac yn cynnig cyfleoedd dysgu unigryw.

4. Pryd sylweddolaist ti dy fod wedi gwneud y penderfyniad cywir i weithio yma?

Mae wedi bod llawer o eiliadau, ond un sy’n sefyll allan yw pan ddaeth BIC yn fusnes hybrid sy’n eiddo i weithwyr yn 2018.
Pan ddaeth y cyfle i brynu cyfranddaliadau yn y cwmni, ni fûm yn petruso. Roedd hyn yn atgyfnerthu’r hyn roeddwn i eisoes yn ei wybod—bod BIC yn gwerthfawrogi ei weithwyr ac yn buddsoddi yn ei ddyfodol.

Bob dydd, rydym yn helpu busnesau i dyfu, datrys heriau, a chyflawni eu nodau. Mae ein tîm yn frwdfrydig, yn uchelgeisiol, ac yn ymroddedig i ddarparu’r canlyniadau gorau i’n cleientiaid—ac mae’r egni hwnnw’n rhywbeth sy’n fy ysgogi’n fawr.

5. Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i rywun sy’n cychwyn yn dy rôl neu yn y cwmni?

Bydd yn chwilfrydig, bydd yn rhagweithiol, ac na fyddi di byth yn rhoi’r gorau i ddysgu. Ond yn fwyaf, gwna’n siŵr dy fod yn mwynhau’r gwaith rwyt ti’n ei wneud! Pan fyddi di’n cael dy amgylchynu gan bobl wych, yn wynebu heriau diddorol, ac yn parhau i dyfu, mae’n brofiad hynod werth chweil.

O leoliad chwe wythnos i Bennaeth Marchnata, mae profiad Anna yn dangos sut gall y cyfuniad cywir o gyfleoedd, cefnogaeth, a meddylfryd positif droi swydd yn yrfa lwyddiannus.

Rydym yn ddiolchgar i gael Anna fel rhan o’n tîm ac edrychwn ymlaen at weld ble fydd ei thaith yn mynd â hi nesaf!

Am ymuno â’r tîm? Dewch i wybod mwy am gyfleoedd Gyrfa ac Associate yn BIC Innovation ar ein gwefan: bic-innovation.com/careers/

Share this on:
We work with

Sign up to our newsletter and be the first to hear about news and events from BIC Innovation

This website uses cookies to give you the best user experience. If you choose to continue using this website, you agree to our use of cookies.