Yn BIC Innovation, rydym yn cael ein harwain gan weithwyr proffesiynol profiadol sy’n dod â gwybodaeth ddiwydiannol fanwl, mewnwelediad strategol, ac angerdd dros gefnogi busnesau. Un o’r arweinwyr hynny yw Alun Thomas, ein Cadeirydd, a ymunodd â BIC ar ôl gyrfa 42 mlynedd ym maes bancio.
Gyda chefndir mewn bancio manwerthu, benthyca busnes amgen (ABL), a chyllid boutique, treuliodd Alun y naw mlynedd olaf o’i yrfa fancio yn Banc Datblygu Cymru, lle daeth ar draws BIC Innovation am y tro cyntaf.
Ar ôl gweld effaith ein gwaith yn uniongyrchol, roedd yn awyddus i fod yn rhan o’r tîm.
Yn y sesiwn holi ac ateb hon, mae Alun yn rhannu ei daith, beth a’i denodd at BIC, a pham mae helpu busnesau i ffynnu yn llawer mwy na mater o gyllid yn unig.
Beth yw dy gefndir di, Alun?
Dechreuais mewn bancio manwerthu gyda Barclays, ac wedyn symudais ymlaen i fancio wedi’i sicrhau (ABL) a banciau arbenigol eraill. Am y naw mlynedd olaf, ro’n i’n gweithio i Fanc Datblygu Cymru, a dyna le des i ar draws BIC a’r gwaith da maen nhw’n ei wneud. Felly pan adawais fancio ryw dair blynedd yn ôl, ro’n i wrth fy modd yn cael cyfle i weithio gyda BIC oherwydd roeddwn i’n gwybod pa mor dda yw’r bobl yno a pha mor bwysig yw’r gwaith maen nhw’n ei wneud.
Beth wnaeth dy ysgogi i ddod yn Gadeirydd BIC?
Ro’n i’n gobeithio y gallwn i helpu – bod ychydig o’r wybodaeth a’r mewnwelediad sydd gen i yn gallu bod yn ddefnyddiol i BIC. Ond y gwir yw, y bobl wnaeth fy ysgogi. Mae rhai o’r bobl yn BIC ymhlith y gorau dw i erioed wedi gweithio gyda nhw – ac nid dim ond ym maes cyllid! Maen nhw’n arbenigwyr ym meysydd eraill hefyd, sy’n hynod ddiddorol. Dw i’n treulio llawer o amser mewn cyfarfodydd yn gwrando ac yn dysgu, sy’n wych. Ond y bobl sy’n gwneud y gwahaniaeth go iawn i fi.
Beth wyt ti’n mwynhau am dy waith gyda BIC Innovation?
Yn ogystal â’r tîm gwych dw i’n gweithio gyda nhw, mae’n rhaid dweud fy mod i’n mwynhau gweithio gyda’r cwsmeriaid hefyd. Maen nhw mor amrywiol – busnesau o bob maint, ar gamau gwahanol ar eu taith, a’r cwestiwn yw sut allwn ni eu helpu? Yn fy ngyrfa flaenorol, roedd y cymorth ro’n i’n ei roi yn bennaf yn ariannol. Mae cyllid yn dal i fod yn rhan o’r darlun, ond rydyn ni’n gwneud llawer mwy na hynny nawr – a dyna sy’n gyffrous iawn!
Mae taith Alun o fancio i arwain busnes yn adlewyrchu hanfod BIC Innovation—sef cydblethu profiad, mewnwelediad, ac ymagwedd sy’n rhoi pobl yn gyntaf wrth gefnogi busnesau.
Mae ei arweinyddiaeth, ei angerdd dros ddysgu, a’i gred yn nerth cydweithio a thwf yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol BIC.
Rydym yn ddiolchgar i gael Alun fel ein Cadeirydd ac edrychwn ymlaen at y arbenigedd, arweiniad ac egni y mae’n ei ddod i’r rôl!
Am ymuno â’r tîm? Dewch i wybod mwy am gyfleoedd Gyrfa ac Associate yn BIC Innovation ar ein gwefan: bic-innovation.com/careers/