Trosolwg
Mae rhaglen Innovate UK Business Growth yn helpu busnesau uchelgeisiol sydd â photensial mawr i dyfu i arloesi, dod â syniadau newydd i’r farchnad ac ehangu eu gweithgarwch. BIC Innovation sy’n cyflwyno’r rhaglen yng Nghymru, gan gynnig cymorth arbenigol wedi’i deilwra i helpu busnesau i oresgyn heriau cymhleth a gwireddu eu potensial i dyfu.
Mae SafePath Leadership yn ymgynghoriaeth arbenigol sy’n gweithio mewn diwydiannau lle mae lefelau risg yn uchel. Sefydlwyd y busnes gan Dr Stephen Bater, arbenigwr sydd ag enw da yn rhyngwladol ym maes diogelwch prosesau a lliniaru effeithiau trychinebau.
Wrth wraidd y busnes mae methodoleg unigryw a ddatblygwyd dros ddegawdau o brofiad rhyngwladol, gan helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau hollbwysig ynghylch diogelwch, lle gall y canlyniadau gael effaith sylweddol ar bobl a gweithrediadau.
Ar ôl meithrin enw da a sefydlu busnes ymgynghori llwyddiannus, mae SafePath Leadership bellach yn edrych ar sut i droi ei arbenigedd yn blatfform meddalwedd fel gwasanaeth (SaaS). Y nod yw gallu cynnig ei fethodoleg i sefydliadau rhyngwladol mawr, gan sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio’n ehangach ac yn fwy cyson.

Yr Her
Roedd SafePath Leadership eisoes wedi sefydlu busnes ymgynghori llwyddiannus, gydag eiddo deallusol gwerthfawr a llif cyson o waith masnachol. Fodd bynnag, roedd y busnes yn dal i ddibynnu’n helaeth ar ei sylfaenydd, gan gyfyngu ar ei allu i ehangu a thyfu yn y tymor hir.
Roedd symud o gynnig gwasanaethau ymgynghori i ddatblygu cynnyrch SaaS yn cyflwyno nifer o heriau strategol. Roedd angen penderfynu ar fodel masnachol clir, deall beth fyddai ei angen i ddatblygu platfform technoleg y gellid ei ehangu, amcangyfrif y costau a nodi’r sgiliau a’r adnoddau angenrheidiol.
Ar yr un pryd, roedd angen cryfhau’r ffordd roedd y busnes yn cyflwyno ei hun i fuddsoddwyr, mireinio ei gynnig gwerth a chael darlun cliriach o’i anghenion ariannu.
Yr her oedd dod â’r holl elfennau hyn at ei gilydd mewn cynllun twf realistig, gyda chamau clir i gefnogi cam nesaf datblygiad y busnes.
Y Cymorth
Drwy raglen Innovate UK Business Growth, a gyflwynir gan BIC Innovation, cafodd SafePath Leadership gymorth arbenigol ym maes arloesi a thwf i’w helpu i symud tuag at fodel busnes a fyddai’n gallu ehangu.
Gan weithio’n agos gydag arbenigwr arloesi a thwf penodedig, dechreuwyd drwy asesu sefyllfa’r busnes gan ddefnyddio adnoddau fel Innovate UK Innovation Canvas. Helpodd hyn i nodi bylchau mewn sgiliau a gallu’r busnes, a phenderfynu pa feysydd oedd angen sylw gyntaf.
O’r fan honno, canolbwyntiodd y cymorth ar lunio cynllun clir ar gyfer symud o ymgynghoriaeth i blatfform SaaS. Roedd hyn yn cynnwys mireinio’r strategaeth fasnachol, cryfhau apêl y busnes i fuddsoddwyr a rhoi adborth manwl ar ddeunyddiau cyflwyno a’r cynnig gwerth, er mwyn helpu’r busnes i ymgysylltu’n fwy effeithiol â chyllidwyr a phartneriaid.
Cymerwyd camau ymarferol hefyd i symud ymlaen ag ochr dechnegol y busnes. Drwy gyflwyno SafePath Leadership i benseiri systemau a chydweithredwyr posibl, bu modd dechrau diffinio gofynion y platfform meddalwedd ac amcangyfrif y costau cysylltiedig. Rhoddodd hyn sail fwy realistig ar gyfer cynllunio’r gwaith datblygu.
Cafodd y busnes hefyd gyngor ar gyfleoedd ariannu addas, gan gynnwys rhaglenni Innovate UK, Invest-Ability a chymorth Arloesi Hyblyg SMART Llywodraeth Cymru. Roedd cymorth pellach yn cynnwys adolygu ceisiadau am grantiau a rhoi cyngor ar gynlluniau cychwynnol i integreiddio deallusrwydd artiffisial (AI) i’r platfform yn y dyfodol.
Y Canlyniadau
Mae SafePath Leadership wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at ddatblygu model busnes sy’n seiliedig ar SaaS, gyda chynllun cliriach a mwy cadarn ar gyfer y camau nesaf.
Bellach, mae gan y busnes lwybr ymlaen mwy pendant, gyda blaenoriaethau wedi’u nodi ar gyfer datblygu technoleg, sicrhau cyllid a gweithredu ei strategaeth fasnachol.
Mae’r ffordd mae’r busnes yn cyfathrebu â buddsoddwyr a phartneriaid hefyd wedi’i chryfhau, gyda chynnig gwerth mwy clir a deunyddiau ategol gwell.
Mae’r gwaith cychwynnol o bennu gofynion y feddalwedd a’r costau datblygu wedi rhoi gwell dealltwriaeth o’r hyn fydd ei angen i wireddu’r cynlluniau. Ar yr un pryd, mae trafodaethau ariannu a cheisiadau am gyllid wedi symud yn eu blaenau.
Yn bwysig, mae ochr ymgynghori’r busnes yn parhau i berfformio’n gryf. Mae hyn nid yn unig yn cynhyrchu incwm, ond hefyd yn dangos bod galw yn y farchnad am arbenigedd SafePath Leadership wrth i’r cwmni weithio tuag at gynnig cynnyrch y gellir ei ddarparu ar raddfa fwy.
Effaith a Thwf
Mae’r cymorth wedi helpu SafePath Leadership i wneud cynnydd pendant, yn strategol ac yn fasnachol, gan gynnwys:
- Cynnig gwerth cryfach i fuddsoddwyr, sy’n cyfleu manteision a photensial y busnes yn gliriach.
- Cynnydd gyda cheisiadau am grantiau a thrafodaethau ariannu, gan helpu i baratoi ar gyfer cam nesaf y datblygiad.
- Creu nifer o gyfleoedd busnes rhyngwladol addawol drwy waith ymgynghori.
- Datblygu saith cynnig masnachol gweithredol, gan roi gwell darlun o’r incwm posibl yn y tymor byr.
- Nodi cwsmeriaid posibl ar gyfer treialu’r platfform SaaS yn y dyfodol.
Gyda’i gilydd, mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod SafePath Leadership yn symud ymlaen yn hyderus o fod yn ymgynghoriaeth sy’n dibynnu ar arbenigedd ei sylfaenydd i fod yn fusnes sy’n gallu tyfu drwy gynnig cynnyrch technoleg. Mae ganddo bellach gynllun clir a chredadwy ar gyfer y dyfodol.
Barn y Cleient
“Mae Justin wedi fy helpu i gymryd cam yn ôl o waith dydd i ddydd y busnes ac ystyried yn gliriach sut gall SafePath dyfu. Mae ei gymorth gyda strategaeth, cyllid a pharatoi ar gyfer buddsoddiad wedi bod yn allweddol wrth lunio cynllun realistig i symud o ymgynghoriaeth i SaaS.”
– Dr Stephen Bater, Sylfaenydd SafePath Leadership
Cydnabyddiaeth o Gyllid