Rydym yn falch o fod yn gefnogwr i Addewid Pasbort Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Gyrfaoedd Bwyd a Diod, sy’n ceisio helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’w gyrfa ddewisol yn ein sector bwyd a diod ffyniannus. Fel cwmni, rydym yn gweithio’n agos gyda busnesau bwyd a diod o bob lliw a llun, ac mae dod o hyd i dalent addas yn her gyffredin y mae llawer yn y sector yn ei wynebu. Rydym hefyd yn croesawu pobl ifanc i ymuno â’n tîm sy’n tyfu, boed ar brofiad gwaith, lleoliadau myfyrwyr neu fel eu cam cyntaf mewn gyrfa amrywiol a chyffrous gan helpu ein cleientiaid i gyflawni eu huchelgeisiau twf.
Fel rhan o’n haddewid, mae dau aelod o’n tîm, Natalie Rouse a Jake Tregoning, wedi’u hyfforddi i fod yn Llysgenhadon Blasus neu yn Tasty Ambassadors, a byddant yn ymweld ag ysgolion a cholegau i rannu eu hangerdd a’u brwdfrydedd am y sector bwyd a diod.
Meddai Natalie, “Ymunais â BIC fel ymchwilydd ar brosiect Bwyd y Dyfodol yn 2019 fel Ymchwilydd Marchnadoedd a Thechnolegau. Mae rôl hon wedi esblygu ers hynny – yn rhychwantu ymchwil i gynhwysion newydd ac ymchwilio i nodweddion swyddogaethol amaethyddiaeth draddodiadol, yn ogystal â mentrau bwyd cymunedol ac ymchwil protein pryfed hefyd!
Yr amrywiaeth i mi sy’n wirioneddol amlygu’r ystod gyffrous ac amrywiol o ymchwil a datblygu o fewn y diwydiant bwyd; pob un wedi sicrhau effaith fawr ar iechyd y genedl, y system fwyd, datblygiad bwyd ac yn y pen draw, y bwydydd a welwn ar y silffoedd i’w bwyta.
Mae fy rôl yn cyfuno fy angerdd personol o iechyd, maeth, a’r amgylchedd. Mae’n datblygu’n barhaus a bob dydd rwy’n dysgu rhywbeth newydd! Fodd bynnag, fe gymerodd dipyn o amser i mi ddarganfod y llwybr gyrfa berffaith i mi, gan nad oeddwn yn ymwybodol o’r holl rolau ymchwil o fewn y diwydiant bwyd!
Roeddwn i eisiau bod yn Llysgennad Blasus i dynnu sylw at amrywiaeth a natur ddeinamig y rolau o fewn y diwydiant bwyd a gyda chyfoeth o gyfleoedd gyrfa yn aros – mae ‘na rhywbeth i bawb!”
Ychwanegodd Jake, “Tra yn y brifysgol, dechreuais weithio ar fferm Cyder leol yng Nghernyw – dyma le y dechreuodd fy angerdd am y diwydiant diodydd. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r holl rolau oedd gan y diwydiant bwyd a diod i’w cynnig ac yn y diwedd fe wnes i weithio ar draws y busnes a chael profiadau gwerthfawr.
Roeddwn i eisiau bod yn Llysgennad Blasus er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd gan y diwydiant bwyd a diod i’w cynnig. Nid ffedogau na rhwydi gwallt mohono i gyd, mae llawer o swyddi eraill ar gael.
Rwyf bellach yn gweithio yn nhîm marchnata BIC Innovation ar y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy. Rydym yn cefnogi busnesau bwyd a diod i dyfu yng Nghymru. Mae’n braf bod ar y pen arall a chefnogi’r mathau hyn o fusnesau.”
Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i elwa o’n perthnasoedd cryf ag Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Bangor ac wedi bod yn falch o gynnal lleoliadau myfyrwyr yn ein swyddfeydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ynys Môn. Mae’n bartneriaeth wych – mae’r myfyrwyr yn dysgu llawer o sgiliau busnes proffesiynol ac ymarferol wrth wneud cyfraniad uniongyrchol a gwych i’n busnes, boed yn gweithio ar brosiectau cleient penodol, neu’n helpu i lunio ein dyfodol trwy ymchwil.
Rydym yn hynod falch o ymuno â’r addewid wrth i ni weithio gyda’r Academi Sgiliau Genedlaethol trwy nifer o’n prosiectau a’n rhaglenni bwyd a diod. Eleni, roeddem yn falch o dreialu rhaglen lleoliadau myfyrwyr gydag Ysgol Busnes Caerdydd trwy un o’n prosiectau, Y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy Bwyd a Diod Cymru. Gan weithio gyda’r Ysgol Busnes, fe lwyddom i baru 6 myfyriwr â busnesau bwyd ar gyfer eu lleoliadau diwydiannol 20 wythnos. Mae’r adborth a gawsom gan y myfyrwyr a’r busnesau wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae’r myfyrwyr wedi gweithio ar ystod eang o brosiectau gyda’u busnesau ac wedi ennill sgiliau gweithle pwysig wrth helpu busnesau i symud ymlaen ar y prosiectau hyn.
Gallwch ddarganfod mwy am y Pasbort Gyrfaoedd Bwyd a Diod ac ymuno â’r addewid yma: https://fdcp.co.uk/