Mae gwreiddiau BIC yn rhedeg yn nwfn yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd gan 3 cyfarwyddwr Cymraeg ac yn falch y gallai ddarparu ei wasanaethau’n ddwyieithog.
Mae gwreiddiau BIC yn rhedeg yn nwfn yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd gan 3 cyfarwyddwr Cymraeg ac yn falch y gallai ddarparu ei wasanaethau’n ddwyieithog.
Gan fod gan y Gymraeg statws cyfartal â Saesneg yng Nghymru, ac mae’n well gan rai cleientiaid ddelio yn y Gymraeg, mae cael cyfran o’r tîm sy’n gallu cyfathrebu yn iaith dewis ein cleient yn cynnig budd ychwanegol. Mae’r siroedd sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn siroedd gwledig lle mae amaethyddiaeth a’r diwydiant bwyd yn bwysig. Er mwyn ymgysylltu’n llawn â’r sectorau hyn a phartneriaid eraill, mae’n bwysig i ni ein bod yn gallu darparu gwasanaeth mewn iaith o ddewis.
Yn ogystal â darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog, gan sicrhau bod ein gweithgareddau’n cydymffurfio â safonau’r Gymraeg, rydym ni hefyd wedi ymrwymo i’r Gymraeg ac yn deall yn glir yr egwyddor o drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb.
Mae ein hymrwymiad i’r Gymraeg yn cynnwys:
- Mae gennym bolisi Cymraeg sy’n cydnabod Mesur Cymraeg (Cymru) 2011 sy’n rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru
- Cymraeg yw iaith gyntaf llawer o’n tîm sydd yn ein swyddfeydd yn y Gogledd a’r De.
- Anogir pob aelod o staff, gan gynnwys dysgwyr, i ddatblygu eu sgiliau iaith dwyieithog
- Rydym yn cynnig cymorth ariannol i weithwyr sydd am wella eu sgiliau Cymraeg
- Mae’r Gymraeg yr un mor bwysig â Saesneg mewn cylchlythyrau, e-byst, deunyddiau prosiect, gan gynnwys deunyddiau hyrwyddo
- Rydym yn ymdrechu i ateb galwadau gan ddefnyddio’r Gymraeg fel cyfarchiad cychwynnol lle bo hynny’n bosibl
- Rydym yn cadw at reoliadau cyfieithu mewn digwyddiadau
- Gellir cyflwyno prosiectau i gleientiaid yn y Gymraeg neu’n Saesneg.
Dyma beth sydd gan rai o’n gweithwyr Cymraeg i ddweud:
Anna Pearce
“Gyda chyn lleied o gyfle i siarad Cymraeg yn fy mywyd personol, rwy’n gwerthfawrogi gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chydweithwyr yn ystod y diwrnod gwaith a mwynhau bod y defnydd o’r Gymraeg yn cael ei gefnogi a’i annog o fewn y cwmni. Rwy’n credu bod cael y gallu i gyflawni prosiectau yn ddwyieithog yn amhrisiadwy ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ein cleientiaid Cymraeg eu hiaith.”
‘Mae’r Gymraeg yn bwysig i BIC. Mae’n golygu y gallwn gael gwell perthnasoedd â’n cleientiaid Cymreig, a hyd yn oed i ddenu rhai newydd. Mae cynnig ein gwasanaethau yn ddwyieithog hefyd yn golygu y gallwn gyrraedd cynulleidfa ehangach.’
Angharad Evans
Tom Lomax
“Mae’r Gymraeg yn bwysig i BIC er mwyn ysgogi perthnasoedd newydd, datblygu sgiliau cyfathrebu ac fel gwasanaeth unigryw yn erbyn cystadleuwyr.”
Gyda 890,000 o boblogaeth Cymru yn honni eu bod yn siarad rhywfaint o Gymraeg, a’r galw am addysg Gymraeg yn tyfu’n aruthrol, dyma’r amser perffaith i ddysgu Cymraeg. Ewch amdani!
O.N Oeddech chi’n gwybod bod dros 10 iaith yn cael eu siarad o fewn ein tîm?