Mae’r sylwadau yn yr erthygl hon yn seiliedig ar brofiad Brandon Ristow-Wilson, Cydlynydd Gwasanaethau Cynaliadwyedd a Gwydnwch Hinsawdd yn BIC Innovation. Daw ei safbwynt o’i waith ymarferol gyda busnesau ar roi cynlluniau ar waith, meithrin gwydnwch a chynllunio ar gyfer cynaliadwyedd.
Un o’r camsyniadau mwyaf rydyn ni’n dod ar ei draws yw bod ymdrechion cynaliadwyedd yn methu am nad yw pobl yn poeni. Yn ein profiad ni, anaml iawn mai dyna’r broblem.
Mae’r rhan fwyaf o berchnogion busnesau a thimau arwain rydyn ni’n siarad â nhw wir eisiau gwneud y peth iawn. Maen nhw’n deall bod cwsmeriaid yn gofyn mwy o gwestiynau. Maen nhw’n gwybod bod cynaliadwyedd yn dod yn rhan o ofynion caffael. Ac maen nhw’n cydnabod y risgiau, y cyfleoedd a’r cyfeiriad mae pethau’n mynd iddo.
Mae’r broblem fel arfer yn llawer symlach.
Does neb wir yn berchen arno.
Neu, yn hytrach, mae rhywun fath o yn berchen arno.

A dyna lle mae bwriadau da yn aml yn mynd i’r gwellt. Mae’r busnes yn dweud bod cynaliadwyedd yn bwysig, ond does gan neb yr amser, yr awdurdod na’r lle i feddwl i’w yrru ymlaen go iawn. Felly, mae’n cael sylw pan ddaw tendr i mewn, neu pan fydd cwsmer yn gofyn cwestiwn, neu pan fydd rhywun yn dweud, “Oes gyda ni rywbeth am hyn ar gyfer y wefan?” Yna mae popeth yn mynd yn dawel eto, yn hytrach na bod y gwaith yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n caniatáu cynnydd cyson.
Gall hynny deimlo’n effeithlon yn y tymor byr, oherwydd dydych chi ddim wedi ymrwymo llawer o amser nac arian ymlaen llaw. Ond mewn gwirionedd, mae’n aml yn costio mwy. Rydych chi dan bwysau amser, mae hyder yn isel, mae pobl yn sgrialu i ddod â ffigurau at ei gilydd nad ydyn nhw wedi cael cyfle i edrych arnyn nhw’n iawn, ac wrth i chi geisio gweithio allan beth yw’ch sefyllfa chi, mae rhywun arall eisoes yn barod gydag ateb cadarn.
Dyna’r cyfle sy’n cael ei golli.
Mae’n bwynt mae Brandon Ristow-Wilson yn dod yn ôl ato dro ar ôl tro. Yn ei rôl yn cefnogi busnesau gyda chynaliadwyedd a gwydnwch hinsawdd, mae’n gweld yr un patrwm yn codi eto ac eto: mae cynaliadwyedd yn cael ei ychwanegu at lwyth gwaith rhywun, yn cael ei drafod pan fydd cwsmer yn gofyn am dystiolaeth, ac yna’n cael ei wthio i’r naill ochr pan fydd pwysau’r gwaith o ddydd i ddydd yn cymryd drosodd.
Fel y dywedodd Brandon:
“Heb roi cyfrifoldeb clir am gynaliadwyedd i rywun, ynghyd â’r amser, yr adnoddau a’r awdurdod priodol, fydd dim byd ystyrlon yn newid. Mae hi mor syml â hynny.”
Mae’n her deg. Os yw busnes yn dweud bod cynaliadwyedd yn bwysig, mae angen i hynny gael ei adlewyrchu yn y ffordd mae’r gwaith yn cael ei drefnu. Os nad ydych chi’n rhoi amser yn wythnos yr unigolyn hwnnw, cyllideb i weithio gyda hi, neu’r awdurdod i ddylanwadu ar benderfyniadau, dydych chi ddim yn rhoi cyfle teg iddo lwyddo. Rydych chi’n gofyn am ganlyniadau heb greu’r amodau sydd eu hangen i sicrhau’r canlyniadau hynny.
Dydy hynny ddim yn golygu bod angen i bob BBaCh fynd allan yfory a chyflogi rheolwr cynaliadwyedd llawn amser. I’r rhan fwyaf o fusnesau, dydy hynny ddim yn realistig. Ond mae’n golygu bod angen i rywun fod yn gyfrifol amdano go iawn.
Nid yn amwys. Nid “fath o”. Go iawn.
Fel arfer, nid am eu bod nhw’n fwy neu’n gyfoethocach mae’r busnesau sydd mewn sefyllfa gryfach wedi cyrraedd y fan honno. Maen nhw wedi bod ychydig yn fwy trefnus. Maen nhw wedi creu rhythm o amgylch y gwaith. Mae’n gliriach pwy sy’n gyfrifol. Ac maen nhw wedi edrych ar y data’n ddigon aml i ddeall beth mae’n ei ddweud wrthyn nhw.
Mae hynny’n bwysig yn fewnol hefyd. Mae un busnes yn ymateb bob tro mae cwestiwn yn codi. Mae busnes arall yn defnyddio’r un wybodaeth i nodi pwysau ar gostau, gwastraff, aneffeithlonrwydd, problemau teithio a risgiau yn y gadwyn gyflenwi.
Dros amser, mae’r gwahaniaeth hwnnw’n tyfu.
Ac yna mae cwestiwn ymddiriedaeth.
Dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim yn disgwyl perffeithrwydd. Ond fel arfer, maen nhw’n gallu gweld pan fydd rhywbeth yno er mwyn edrych yn dda yn unig. Tudalen am gynaliadwyedd ar y wefan, ambell honiad cyffredinol, geiriau deniadol am ymrwymiad a chyfrifoldeb – ond dim byd y tu ôl i hynny sy’n awgrymu bod y busnes mewn gwirionedd yn rheoli’r mater o ddifrif.
Mae pobl yn sylwi ar hynny. Mae cwsmeriaid yn sylwi. Mae staff yn sylwi. Mae partneriaid yn sylwi.
Fel y dywedodd Brandon:
“Os yw cynaliadwyedd yn cael ei gyflwyno i’r byd y tu allan ond nad oes dim byd y tu mewn i’r busnes i’w gefnogi, wel, mae’n teimlo fel ‘greenwashing’ yn y pen draw.”
Geiriau digon plaen, ie. Ond teg.
Dyna’r perygl gwirioneddol o drin cynaliadwyedd fel tasg ychwanegol. Mae’n creu bwlch rhwng yr hyn mae busnes yn ei ddweud a’r hyn mae ganddo’r gallu i’w wneud. Ac erbyn hyn, gall y bwlch hwnnw danseilio ymddiriedaeth yn llawer cyflymach nag y byddai wedi gwneud ychydig flynyddoedd yn ôl.
I’r rhan fwyaf o BBaChau, y cam cyntaf yw bod ychydig yn fwy gonest yn fewnol.
- Pwy sy’n gyfrifol am hyn?
- Faint o amser sydd ganddyn nhw mewn gwirionedd?
- Pa benderfyniadau allan nhw ddylanwadu arnyn nhw?
- Pa mor aml mae’r tîm arwain yn trafod hyn?
- Beth sy’n digwydd mewn gwirionedd ar ôl i’r gwaith adrodd gael ei wneud?
O’r fan honno, gallai model ymarferol fod yn eithaf syml:
- rhoi cyfrifoldeb ffurfiol i un person
- neilltuo rhywfaint o amser bob mis
- ei wneud yn eitem reolaidd ar yr agenda
- ei gysylltu â’r pethau sydd eisoes yn bwysig i’r busnes, fel costau, cwsmeriaid, tendrau neu barodrwydd y gadwyn gyflenwi
- cael cymorth allanol pan fo capasiti mewnol yn rhy brin
Yn aml, mae hynny’n ddigon i symud cynaliadwyedd o fod yn “rhywbeth y dylen ni ei wneud, mae’n debyg” i fod yn “rhywbeth rydyn ni’n ei reoli go iawn.”
Y peth pwysig yw osgoi’r gwaethaf o’r ddau fyd: rhoi cyfrifoldeb i rywun ar bapur, ond dim amser, awdurdod na chymorth i wneud unrhyw beth defnyddiol ag ef.
Drwy ein partneriaeth â Greener Edge, mae BIC Innovation yn helpu busnesau i droi eu huchelgeisiau cynaliadwyedd yn gamau ymarferol. P’un a ydych chi’n datblygu llwybr ymlaen, yn edrych ar sut i addasu i newid hinsawdd, neu eisiau deall eich effaith amgylcheddol yn well, gallwn eich helpu i nodi’r camau nesaf cywir.