Fel y mwyafrif ohonom, mae busnesau hefyd yn deffro unwaith eto o gyfyngiadau’r pandemig ac yn dangos effeithiau amlwg o’r cyfnod hwnnw.
Mae ein gweithgareddau wedi cael eu rheoleiddio mewn ffordd ddigynsail dros y deunaw mis diwethaf, felly gallai ymddangos fel ein bod ni i gyd wedi rhannu’r amseroedd profi hyn yn gyfartal.
Ond, mewn gwirionedd, mae pob un ohonom wedi cyrraedd y pwynt yma dan ddylanwad ein set o amgylchiadau unigryw. Dim ond ychydig ohonom sydd yn yr un meddylfryd ag yr oeddem ar ddechrau 2020.
Mae nifer o astudiaethau ymchwil diweddar ar farchnad defnyddwyr yn cefnogi hyn ac yn dangos bod y ffordd yr ydym yn meddwl am ein hiechyd corfforol a’n lles meddyliol wedi gweld newid sylweddol.
Ar gyfer brandiau sy’n gweithio yn y sector bwyd a diodydd iach, mae’n amlwg bod gan hyn oblygiadau mawr i’r hyn roeddech chi’n meddwl eich bod chi’n ei wybod am eich cwsmeriaid!
A yw hi wedi bod yn anodd i chi gadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid presennol a chyrraedd rhai newydd gyda’r holl aflonyddwch a phwysau a wynebodd eich busnes?
Efallai bod llacio’r cyfyngiadau yn rhoi cyfle gwych i chi ddatblygu ar y cysylltiadau ar-lein a wnaethoch dros y cyfnod clo?
Wrth i ni gyd ddeffro i fywyd newydd, nawr yw’r amser i siarad â’ch cwsmeriaid wyneb yn wyneb unwaith eto er mwyn darganfod a deall yr hyn maen nhw’n ei feddwl a’i deimlo.
Mae’n hawdd ffocysu ar briodoleddau eich cynnyrch megis ryseitiau a maint pecynnau ayb. Wrth gwrs, mae’r holl ffactorau hyn yn bwysig iawn. Ond rhaid cofio bod gan ddefnyddwyr hefyd gymhellion “emosiynol” a “chymdeithasol” llai diriaethol wrth ymgysylltu â chynhyrchion. Gall ymchwilio i’r ysgogwyr ymddygiad hyn eich helpu i ddatgloi’r ffyrdd unigryw y gall eich cynhyrchion fod yn unigryw.
Mae’r Atlantic Area Healthy Food Ecosystem Project yn cefnogi busnesau bach a chanolig o Gymru i farchnata’u bwydydd iach yn llwyddiannus ac mae hyfforddiant am ddim yn rhan allweddol o hyn. Darganfyddwch fwy yma: