Bob dydd, mae pobl o bob cefndir yn profi perygl yn y dŵr. Mae criwiau achub bywyd yr RNLI wedi arbed dros 142,200 o fywydau ers 1824 drwy chwilio ac achub, achubwyr bywyd a mentrau diogelwch dŵr. Mae criwiau yr RNLI yn darparu gwasanaeth achub 24 awr yn y DU ac Iwerddon ac yn dibynnu ar wirfoddolwyr a chefnogwyr i redeg y gwasanaeth sy’n achub bywyd.
Mae Tom o’n tîm cyllid yn gwirfoddoli ei nosweithiau a’i benwythnosau gyda’r RNLI ym Moelfre, Ynys Môn. Mae Tom yn esbonio sut y gall ddydd Sadwrn tawel droi i fod yn ymgais achub anferthol…
“Mae’n wyth o’r gloch fore Sadwrn yn ystod gwyliau’r haf ac mae’r haul yn tywynnu braf, sy’n golygu un peth … ar ryw adeg heddiw, mae’n hynod debygol mi fyddaf yn gorfod mynd allan ar gwch. Does gen i ddim syniad pryd, gyda phwy, pa mor hir fydd hi a ble fyddwn ni’n mynd.
Does dim ots faint o gynlluniau sydd gennych ar gyfer y diwrnod, mae’n debygol iawn daw rhyw ddigwyddiad i darfu. Fe allech chi fod yng nghanol bwyta’ch brecwast, yn pobi cacen flasus yn y ffwrn neu’n aros am eich archebu fish a chips. Mae llais yn y pen yn holl-bresennol – ‘beth os fydd y ffôn yn canu nawr?’
Am 9.30yb bob dydd Sadwrn mae gennym brawf system i sicrhau bod y galwyr yn gweithio’n gywir – mae hynny’n sicr o’n deffro! Er fy mod i’n gwybod yn union faint o’r gloch y mae’n dod, mae’n fy nghael bob tro! Pan fydd yn canu’r eildro’r diwrnod hwnnw, digwyddiad go iawn ydyw ac mae angen i chi gyrraedd yr orsaf cyn gynted ag sy’n bosib. Ble mae fy sanau? Gyda’r adrenalin yn llifo’n gry’, dwi’n aml yn estyn am y sanau agosaf, rhai fy nghariad, ac yna crocs fy mam! Wps!
Beth sydd wedi digwydd? Person neu anifail? Cwch neu gaiac? Mae’r cwestiynau’n ffrwydro yn fy mhen. Unwaith i ni gyrraedd, rydym yn newid dillad yn syth, mae’r criw yn cael eu dewis ac mae’r cwch yn cael ei baratoi a’i lansio o fewn munudau. Rydych yn cael eich briff ar leoliad ac yn cymryd anadl ddofn ac yn ymddiried yn ei hyfforddiant a’n proffesiynoldeb.
Wedi i ni gyrraedd yn ôl i’r orsaf, mae ‘na ddigon o swyddi sydd dal i’w gwneud. Rhaid ail-danio, glanhau a pharatoi’r cwch oherwydd o fewn chwinciad, fe all yr alwr ganu eto. Cyfle i gydio mewn panad a bisged ac yna dadansoddi’r digwyddiad.
Diwrnod prysur arall ar ben a nôl i fywyd pob dydd … tan i’r galwr ganu unwaith eto!”
Darganfyddwch mwy am yr RNLI a’u gwaith trwy ymweld â’u Gwefan. Newyddion ar Facebook RNLI Moelfre.