Dyddiad: Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2022, 09:30 – 16:00 GMT
Lleoliad: Sefydliad Awen, Adeilad Talbot, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP ac Ar-lein.
Pleser gennym eich gwahodd i gymryd rhan yn nigwyddiad pwll tywod, a drefnwyd mewn cydweithrediad a grŵp ymchwil SNAC, a gynhelir yn Athrofa Awen.
Bydd y digwyddiad 1 diwrnod hwn yn rhoi cipolwg ar gyfleoedd ymchwil ac arloesi ar gyfer bwydydd iach a chynaliadwy, gyda ffocws ar wymon, algâu, ac atebion eraill sy’n seiliedig ar blanhigion fel “bwydydd ar gyfer y dyfodol”. Mae pynciau allweddol i’w harchwilio fel rhan o weithgareddau syniadaeth a rhwydweithio yn cynnwys:
- Cyfleoedd ar gyfer arloesi: Cymwysiadau newydd ar gyfer cynhyrchion bwyd iach a chynaliadwy
- Teilwra cynhyrchion bwyd i ddemograffeg allweddol: Datrysiadau amlygu ar gyfer oedolion hŷn
- Heriau i ddatblygu a marchnata cynhyrchion: Archwilio safbwyntiau defnyddwyr a diwydiant
Bwriad y digwyddiad hwn yw dod â chyfranogwyr sydd ag ystod eang o arbenigedd yn y sector bwyd a diod at ei gilydd, a chefnogi cyfleoedd rhwydweithio rhwng cydweithwyr Cymreig a Rhyngwladol sydd â’r potensial i ymgeisio am gyfleoedd ariannu yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiad hwn am ddim i’w fynychu ond mae cofrestru’n hanfodol!
Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2022, 09:30 – 16:00 GMT
Digwyddiad gweithdy wyneb yn wyneb:
Sefydliad Awen Adeilad Talbot Prifysgol Abertawe Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP – Cliciwch yma i gofrestru i fynychu’r digwyddiad wyneb yn wyneb.
Digwyddiad gweithdy ar-lein:
Ar-lein (bydd manylion ymuno yn cael eu hanfon cyn y digwyddiad) – Cliciwch yma i gofrestru i fynychu ar-lein.
Cyn y digwyddiad byddwch yn derbyn e-bost gyda gwybodaeth bellach am amserlen y digwyddiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rochelle o grŵp ymchwil SNAC: r.j.embling@swansea.ac.uk
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan!