Am ddau ddegawd, mae BIC Innovation wedi bod wrth wraidd twf busnesau, gan weithio ochr yn ochr â chwmnïau uchelgeisiol i’w helpu i dyfu, arloesi a llwyddo. Nododd 2024 garreg filltir bwysig i ni wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 20 oed.
Wrth i ni lansio ein Hadroddiad Blynyddol 2024, rydym yn myfyrio ar flwyddyn o gynnydd sylweddol, llwyddiannau allweddol ac ymrwymiad cryfach fyth i’r busnesau a’r diwydiannau rydym yn eu cefnogi.
Blwyddyn o Effaith Busnes
Mae ein gwaith wedi cyflwyno canlyniadau ystyrlon a mesuradwy.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi:
- Gweithio gyda 910 o fusnesau, gan ddarparu cyngor wedi’i deilwra a chymorth ymarferol i’w helpu i dyfu ac addasu.
- Cefnogi creu 609 o swyddi newydd a helpu i ddiogelu 1,244 o rolau, gan gryfhau sefydlogrwydd economaidd.
- Sicrhau £24 miliwn mewn cyllid i fusnesau, gan gyflawni cymhareb enillion o 8.8:1.
- Darparu dros 400 o becynnau cymorth twf ac arloesi wedi’u targedu, gan sicrhau bod busnesau’n meddu ar yr offer angenrheidiol i gystadlu mewn marchnadoedd sy’n newid.
- Hwyluso 20 o bartneriaethau strategol a chyflwyno mentrau trosglwyddo gwybodaeth i 670 o fusnesau, gan eu harfogi â’r arbenigedd sydd ei angen i gofleidio arloesi a newid.
Mae’r llwyddiannau hyn yn adlewyrchu ein cenhadaeth graidd: galluogi sefydliadau uchelgeisiol i lwyddo drwy ethos o gydweithio, arloesi cynaliadwy a dycnwch.
Beth Mae Hyn yn Ei Olygu i’r Busnesau Rydym yn Eu Cefnogi
Yn BIC Innovation, nid ydym yn cynnig cyngor yn unig – rydym yn gweithio ochr yn ochr â busnesau i fynd i’r afael â’u heriau mwyaf a rhyddhau eu potensial. Mae ein cymorth wedi bod yn arbennig o werthfawr mewn sectorau allweddol fel gweithgynhyrchu, technoleg, bwyd a diod, a chynaliadwyedd, lle mae busnesau’n wynebu pwysau cynyddol a newidiadau cyflym yn y diwydiant.
Dywedodd Alun Thomas, Cadeirydd BIC Innovation:
“Y tu ôl i bob ffigur yn yr adroddiad hwn mae busnes sydd wedi gweithio’n galed i oresgyn heriau, addasu a thyfu. Ein rôl ni yw sicrhau bod ganddyn nhw’r cymorth cywir – boed hynny’n sicrhau buddsoddiad, meithrin gwytnwch neu ddod o hyd i ffyrdd newydd o gystadlu mewn marchnad sy’n newid. Mae canlyniadau 2024 yn dangos pa mor hanfodol yw hi i fusnesau gael mynediad at gyngor wedi’i deilwra a chefnogaeth ariannol, gan eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n sbarduno twf cynaliadwy – nid yn unig ar gyfer heddiw, ond ar gyfer y dyfodol.”
Y tu hwnt i sicrhau buddsoddiad, ein ffocws yn 2024 fu darparu cymorth ymarferol a phendant, gan sicrhau bod busnesau’n gallu manteisio ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt. Boed hynny drwy raglenni twf wedi’u targedu, partneriaethau strategol neu fentrau sy’n cael eu harwain gan arloesi, rydym wedi ymrwymo i helpu busnesau i droi heriau’n gyfleoedd.
Edrych Ymlaen: Dyfodol Twf Busnes yn BIC Innovation
Wrth i ni edrych tua 2025 a thu hwnt, rydym yn parhau i fod wedi’n hymrwymo i:
- Helpu busnesau i sicrhau buddsoddiad a chyllid i sbarduno eu twf.
- Yrru arloesi a gwytnwch, gan sicrhau bod gan fusnesau’r strategaethau cywir i addasu a chystadlu.
- Ehangu ein heffaith, gan weithio gyda hyd yn oed mwy o fusnesau i greu swyddi, adeiladu diwydiannau cryfion a chyfrannu at economi lewyrchus.
Ychwanegodd Linda Grant, Rheolwr Gyfarwyddwr BIC Innovation:
“Rydym yn gwybod bod rhedeg a thyfu busnes yn heriol, a dyna pam rydym yn canolbwyntio ar gymorth ymarferol, go iawn sy’n gwneud gwahaniaeth. Boed hynny’n helpu cwmni i sicrhau buddsoddiad, mireinio eu strategaeth neu gysylltu â’r bobl gywir, ein nod bob amser yw rhoi’r offer iddynt i lwyddo. Mae’r gwytnwch a’r arloesi rydym wedi’u gweld gan y busnesau rydym yn eu cefnogi yn ysbrydoledig, ac mae’n fraint bod yn rhan o’u llwyddiant.
Roedd 2024 yn flwyddyn garreg filltir i BIC Innovation, ond nid ydym yn sefyll yn ein hunfan. Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol a fydd nid yn unig yn cryfhau ein sefydliad ond hefyd yn creu cyfleoedd newydd i’r busnesau a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Wrth wraidd popeth a wnawn mae ymrwymiad i bobl – ein tîm, ein cleientiaid a’n partneriaid. Bydd hynny bob amser yn parhau’n brif ffocws i ni wrth i ni barhau i esblygu, tyfu a chyflwyno effaith am flynyddoedd i ddod.”