Bydd bwyd dros ben am nifer o resymau, er enghraifft: gwallau mewn rhagolygon, gwallau mewn labelu, hen stoc dymhorol, problemau gyda phecynnu neu dreialon cynhyrchu. Mae FareShare Cymru yn credu bod y bwyd hwn bob amser yn well i’w ddarparu ar blatiau i fwydo pobl sy’n agored i niwed.
Yng Nghymru, mae tua 400,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu bob blwyddyn. Os byddai ond 1% o hyn yn fwytadwy, byddai’n ddigon darparu’r hyn sy’n cyfateb i dros 9 miliwn o brydau bwyd. Mae FareShare Cymru yn credu, ar adeg pan fo bron i chwarter poblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi ac yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar fwyd maethlon, y dylai bwyd sy’n dal yn ddiogel i’w fwyta fynd i’r rheini sydd mewn angen bob amser.
Mae FareShare Cymru am siarad â busnesau bwyd a diod sy’n wynebu problemau gyda’r bwyd sydd dros ben, ac sydd am fynd i’r afael â’u hôl troed carbon. Maent yn troi problem amgylcheddol yn ateb cymdeithasol, drwy weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant bwyd a diod i ddargyfeirio eu bwyd dros ben i bobl sy’n agored i niwed ledled Cymru. Mae nhw yn gweithio gyda dros 170 o grwpiau cymunedol ac elusennau, gan ddarparu cyflenwad rheolaidd o fwyd da a maethlon iddynt, a fyddai fel arall wedi cael ei wastraffu.
Yn benodol, maent am roi mynediad i bobl sy’n agored i niwed at y nwyddau y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol yn eu siop wythnosol. Mae angen parhaus i gael gafael ar brif nwyddau diet Prydain Fawr, gan gynnwys te, coffi, siwgr, menyn ac wyau. Byddai FareShare Cymru yn croesawu trafodaethau gydag unrhyw gynhyrchwyr neu weithgynhyrchwyr yng Nghymru sy’n cronni’r eitemau hyn fel stoc dros ben, i sicrhau nad ydynt yn mynd i wastraff.
Yn ogystal â helpu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, mae rhoi eich bwyd dros ben i FareShare yn ei atal rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi – y gyrchfan fwyaf cyffredin ar gyfer gwastraff bwyd. Mae hyn yn ychwanegu gostyngiad sylweddol at ôl troed carbon eich cwmni, sy’n golygu bod eich bwyd dros ben yn dda i bobl a’r blaned.
Yn 2021-22, achubodd FareShare Cymru ddigon o wastraff bwyd a diod i arbed 2650 tunnell o allyriadau CO2 cyfatebol rhag mynd i mewn i’n hamgylchedd.
O ran y bwyd y mae FareShare yn ei derbyn fel rhoddion, eu prif feini prawf yw bod gan y bwyd o leiaf 48 awr o fywyd sylfaenol ar ôl ei dderbyn, a’i fod yn dal yn ddiogel i’w fwyta.
Byddai FareShare yn croesawu trafodaeth gyda busnesau bwyd o unrhyw faint, o bob cwr o Gymru, i’w helpu i wneud gyda’u bwyd dros ben. I drafod cyfrannu bwyd dros ben eich cwmni, cronfa ‘Surplus with Purpose Cymru’, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â Simon Stranks (Cydlynydd Cyrchu Bwyd) yn Simon@fareshare.cymru
Am ragor o wybodaeth, lawr lwythwch y daflen: FareShare – Taflen Gwybodaeth Cyflenwr Gymraeg