“Rwy’n arbenigo mewn helpu busnesau i reoli eu prosesau arloesi yn llwyddiannus a chreu amgylcheddau sy’n annog arloesi trwy ymgynghori, hwyluso a hyfforddi”
Mae gan Rod wybodaeth eang am offer a thechnegau arloesi, o greu syniadau cychwynnol hyd at weithredu ac uwchraddio. Mae’n hwylusydd ac ymgynghorydd strategol o’r radd flaenaf sy’n mwynhau gweithio gyda thimau amlddisgyblaethol a’u tywys trwy’r broses arloesi. Trwy gydol ei yrfa o 22 mlynedd, mae wedi bod yn rhan o sawl prosiect arloesi technegol a masnachol ac wedi helpu cwmnïau i greu prosesau arloesi cadarn.
Mae Rod yn hapus i weithio gyda busnesau sydd ar fin cychwyn, busnesau bach a chanolig a chwmnïau rhyngwladol mawr, ac mae wedi gweithio ar draws ystod eang o sectorau gan gynnwys gofal iechyd, cynhyrchu, cynhyrchu prosesau, adeiladu, rheilffyrdd, awyrofod, logisteg, bwyd a diod, digidol a chwaraeon.
Beth yw dy gefndir?
Rwyf wedi gweithio ar draws sawl diwydiant, o weithgynhyrchu i ofal iechyd. Trwy gydol fy ngyrfa bu fy ffocws erioed ar helpu i greu’r amgylchedd cywir ar gyfer arloesi, newid a thwf.
Beth oedd y swydd waethaf i ti ei wneud, a beth ddysgais di ohoni?
Rwy’n ffodus i ddweud nad wyf erioed wedi cael “swydd waethaf”. Fy swydd gyntaf oedd golchi llestri mewn tafarn brysur. Dysgais lawer am bobl a llif prosesau!
Sut wyt ti’n dysgu am yr arloesedd / tueddiadau diweddaraf?
Mae arloesi, sylwi ar gyfleoedd a rheoli newid wedi bod yn angerdd imi erioed. Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ogystal â siarad â’n cleientiaid, rwyf bob amser yn darllen, boed hynny’n llyfrau, gwefannau, erthyglau newyddion neu flogiau.
Petai ti’n gorfod dewis tri hoff app, pa rai byddai’n dod i’r brig?
Dim ond tri?! WhatsApp, Spotify, Google Maps!
Beth yw dy sgil allweddol?
Strategaeth, Hwyluso a Rheoli Newid