“Rwy’n gweithio gyda busnesau bach a chanolig i’w helpu i gyrraedd eu potensial i dyfu”
Mae gan Nick dros ugain mlynedd o ymgynghoriaeth reoli sydd yn canolbwyntio ar ddarparu profiad gwasanaeth cwsmer eithriadol mewn ystod eang o fusnesau bach a chanolig eu maint, cwmnïau o’r radd flaenaf ac enwau adnabyddus ar draws sawl sector.
Yn hyderus wrth arwain a chefnogi mentrau strategol ar draws sawl tîm gan ddefnyddio pecyn cymorth gwella parhaus Lean Six Sigma, offer a thechnegau gwella busnes i ddatblygu atebion arloesol ymarferol i broblemau busnes.
Mae ganddo sylfaen gref mewn technegau rheoli prosiect a darparu newid trawsnewidiol a rhagoriaeth weithredol, gan adeiladu gallu a hyder ar draws ystod eang o feysydd mewn busnesau.
Mae ymyriadau Nick o fewn cynorthwyo busnesau bach a chanolig arloesol i wella effeithlonrwydd, adeiladu gwytnwch a rhyddhau cyfalaf gweithio i fod ar gael ar gyfer cyllid cyfatebol mewnol ar gyfer mentrau twf grantiau, dyled ac ecwiti.
Mewn un frawddeg, beth wyt ti’n ei wneud yn BIC?
Rwy’n arbenigwr Arloesi a Thwf EDGE UK ac arbenigwr Arloesedd SMART, felly rwy’n gweithio gyda busnesau bach a chanolig i’w helpu i gyrraedd eu potensial i dyfu.
Pa sgiliau hoffet ddatblygu yn y dyfodol?
Diddordeb mewn gweithio gyda mwy o gwmnïau Bwyd, Diod a Hamdden
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i dy hun ar ddechrau dy yrfa?
The journey is the destination, enjoy the journey!
Pa arloesedd diweddar sydd wedi dy ysbrydoli?
Better, Value, Sooner, Safer, Happier – Llyfr gan Jonathan Smart
Beth yw dy sgiliau allweddol?
Hwyluso busnesau i gyflawni eu potensial