“Rwy’n gweithio ar ystod o brosiectau ar gyfer helpu busnesau bach a chanolig i ddatblygu a lansio cynhyrchion.”
Mae Molly yn rheolwr profiadol yn y diwydiannau diagnostig meddygol a gwyddorau bywyd, mewn Ymchwil a Datblygu a Gweithrediadau. Mae hi wedi gweithio ym maes ymchwil academaidd, corfforaethau byd-eang mawr a gyda chwmnïau bach. Mae’r rhain yn cynnwys Boots, Amersham International, General Electric a Gen-Probe Cardiff Ltd. Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth iddi o wahanol ddiwylliannau corfforaethol a rheoli newid a phontio.
Hi oedd unig gyfarwyddwr Gen-Probe Cardiff Ltd yn y DU ac, fel cyfarwyddwr y safle, darparodd arweinyddiaeth, cyfeiriad a datblygiad meysydd swyddogaethol ym maes gweithgynhyrchu, rheoli ansawdd, cadwyn gyflenwi, sicrhau ansawdd a materion rheoleiddio a chyllid. Mae hi’n darparu cyngor i gleientiaid ar ddatblygu a lansio profion diagnostig meddygol wedi’u marcio â CE gan roi arweiniad a chefnogaeth ar faterion sy’n amrywio o drafodaeth dechnegol i gyfeiriad strategol. Mae hi’n aelod o Grŵp Cynghori Cyflogwyr y Gymdeithas Frenhinol Bioleg a’u tîm achredu gradd.
Pa brosiect wyt ti wedi mwynhau gweithio arno?
Rwyf wedi mwynhau gweithio ar brosiectau yn ystod y pandemig lle mae cwmnïau wedi cwrdd â’r her o weithgynhyrchu cynhyrchion mewn ardaloedd cwbl newydd er mwyn ateb y galw am gyflenwadau brys.
Sut wyt ti’n gwynebu dechrau prosiect newydd?
Gan fy mod yn wyddonydd ymchwil yn wreiddiol, dwi’n hoffi darganfod cymaint o wybodaeth gefndirol ag y gallaf ar gyfer prosiect newydd er mwyn i mi wir geisio deall yr hyn sydd ei angen.
Pa arloesedd sydd ar ddod bydd yn sicr o gael effaith ddramatig ar y diwydiant dros y pum mlynedd nesaf?
Bydd Deallusrwydd Artiffisial (Artificial Intelligence) a dysgu â pheiriant yn ysgogwyr mawr yn y diwydiant gwyddor bywyd ac yn mynd i’n gwthio ni tu hwnt i’r arfer.
Beth yw dy hoff lyfr / cyfres deledu?
Daughters of Mars gan Thomas Keneally. Llyfr am ferched cyffredin sy’n delio ag amgylchiadau anghyffredin, wedi’i ysgrifennu gan storïwr gwych.
Beth yw dy sgiliau allweddol?
Datblygu cynnyrch, trosglwyddo technoleg, rheoliadau a chydymffurfiaeth, mentora.