“Rwy’n cefnogi ac yn rheoli datblygiad a chydweithrediad prosiectau sy’n seiliedig ar fwyd gan ddod â’r byd academaidd, diwydiant a’r Llywodraeth ynghyd”
Mae Louise yn Ymarferydd Prince II cymwys, yn uwch weithiwr proffesiynol Masnachol, gyda 24 mlynedd o brofiad yn y diwydiant bwyd; gan gynnwys gweithgynhyrchu bwyd aml-safle mawr a manwerthu bwyd. Mae ganddi brofiad ymarferol mewn uwch reoli masnachol, rheoli categori, rheoli cyfrifon cenedlaethol, prynu manwerthu, cyrchu cynnyrch, NPD (cysyniad a gweithredu), rheoli brand a thechnoleg broses gyda sylfaen mewn maeth a gwyddor bwyd. Mae hi’n adnabyddus am feithrin perthynas ragorol â chwsmeriaid a thimau mewnol. Mae ganddi sgiliau rheoli datblygedig i sicrhau’r canlyniadau gorau gan dimau masnachol a datblygu. Foodie go iawn!
Pwy sy’n dy ysbrydoli?
Unrhyw un sydd â gweledigaeth, ysfa a’r awydd i gyflawni gweithgareddau bwyd a gwyddoniaeth gyffrous, ond yn fwy na dim fy nwy ferch syfrdanol.
Pa sgil y dylai pawb ei ddysgu?
Sut i goginio
Pa gymysgedd o flasau rhyfedd wyt ti wedi eu blasu sydd mewn gwirionedd yn blasu’n eitha’ neis?
Cacen ffrwythau a chaws wensleydale ond mae mango a jalapeno yn eithaf blasus hefyd
Y lle gorau i ti deithio?
Cwestiwn anodd, dwi wrth fy modd yn teithio. Siŵr o fod Gwlad Thai.
Beth yw dy sgiliau allweddol?
Trefn, creadigrwydd a chyflwyno