“Rwy’n rheoli prosiectau a rhaglenni sy’n cefnogi’r Sector Bwyd a Diod”
Gyda gradd mewn Gweinyddu Busnes ac yn aelod o’r Sefydliad Marchnata Siartredig, mae Linda yn rheolwr marchnata strategol gyda dros 20 mlynedd o brofiad busnes i fusnes a marchnata, gan gynnwys gweithio gyda chydweithwyr rhyngwladol.
Cyn ymuno â BIC Innovation, roedd Linda yn Bennaeth Cynllunio Marchnata ar gyfer KPMG yn y DU. Gweithiodd ar lefelau uchel iawn gyda’r cwmni blaenllaw hwn, gan ddatblygu cynlluniau marchnata strategol i gefnogi a chyflawni amcanion corfforaethol. Ei rôl flaenorol yn KPMG oedd Pennaeth Marchnata Treth y DU, a oedd yn gyfrifol am farchnata trosiant o £300m. Ers ymuno â BIC yn 2012, mae Linda wedi gweithio ar ystod o raglenni sector cyhoeddus ac ymgynghoriaeth sector preifat.
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i dy hun?
Parhau i ddysgu
Beth yw her fwyaf y mae busnesau bach a chanolig yn gorfod delio ag ef ar hyn o bryd?
Rhagweld dyfodol hynod anrhagweladwy!
Y lle gorau i ti deithio?
Mynyddoedd y Rockies yng Nghanada.
Beth yw dy sgiliau allweddol?
Strategaeth, cynllunio, rheoli perthnasoedd, rheoli prosiectau, cyfathrebu, ymchwil