“Rwy’n gyfrifol am dwf strategol y cwmni ac yn arwain ac yn cyflwyno ystod o raglenni a ariennir a chontractau masnachol.”
Huw yw un o’r Cyfarwyddwyr wnaeth sefydlu prif ymgynghoriaeth rheoli arloesedd Cymru, gan ddarparu arweinyddiaeth a datblygiad strategol i sicrhau twf parhaus ers 2004. Mae’n arweinydd ymroddedig a llawn cymhelliant sy’n angerddol am ddyfodol economaidd a chymdeithasol tymor hir Gogledd Cymru.
Yn gyd-weithiwr effeithiol, mae ganddo gyfuniad o sgiliau a barnau i gyflwyno cynigion gwerthfawr yn gyson ac atebion dyfeisgar. Mae Huw yn arweinydd profiadol mewn prosiectau arloesi, newid trawsnewidiol, rheoli arloesedd a masnacheiddio technoleg a gwasanaethau i fusnesau bach a chanolig.
Beth yw dy gefndir?
Cyn sefydlu BIC Innovation, bûm yn gweithio am 11 mlynedd yn y diwydiant dŵr, mewn rolau technegol i ddechrau ac yna mewn cyfres o rolau masnachol yn darparu atebion ar gyfer gwastraff diwydiannol.
Beth yw her y mae’n rhaid i fusnesau bach a chanolig ddelio ag ef yr hoffet ti ei oresgyn?
Sicrhau ethos Gwelliant Parhaus trwy’r cwmni i gyd-fynd â’r newidiadau sy’n ofynnol i dyfu’n gynaliadwy.
Pa arloesedd sydd ar ddod bydd yn sicr o gael effaith ddramatig ar y diwydiant dros y pum mlynedd nesaf?
Mabwysiadu technolegau digidol i fyrhau cadwyni cyflenwi a chyrraedd marchnadoedd newydd
Beth oedd dy swydd gyntaf?
Fy swydd gyntaf ar ôl gadael y brifysgol oedd helpu i osod ystafelloedd ymolchi mewn bloc newydd o fflatiau i fyfyrwyr!
Beth yw dy sgil allweddol?
Meddwl yn strategol, cyfathrebu’n hyderus a bod yn benderfynol!