Mewn un frawddeg, beth wyt ti’n ei wneud yn BIC?
Rwy’n darparu cefnogaeth ac arweiniad i rai o’r cwmnïau sy’n tyfu cyflymaf yn y DU i oresgyn y prif heriau maen nhw’n eu hwynebu ar hyd eu taith twf.
Sut y gwnes di ddechrau yn dy yrfa?
Nid oedd mynd i’r Brifysgol yn opsiwn i mi felly pan yn 16 oed cymerais swydd a fyddai’n caniatáu imi ddysgu sgiliau newydd a datblygu’n gyflym. Dechreuais weithio gyda CIS Insurance a gweithiais yn yr holl adrannau amrywiol gan gynnwys tanysgrifennu. Darparodd sylfaen wych o wybodaeth i mi.
Pa gamgymeriad wnes di ar ddechrau dy yrfa, a sut wnes di ddysgu ohono?
Roeddwn yn awyddus i ddatblygu a chefais ddyrchafiad yn rhy fuan. Buan sylweddolais cyn lleied roeddwn i’n ei wybod a chymaint roeddwn i angen pobl dda o’m cwmpas i’m helpu i fod yn llwyddiannus.
Beth yw her fwyaf y mae busnesau bach a chanolig yn gorfod delio ag ef ar hyn o bryd?
Mae’n debyg mai tarfu ar gadwyni cyflenwi yw’r her fwyaf cyffredin ar hyn o bryd ac mae’n effeithio ar eu cynllunio a’u cyflenwi.
Pa swydd fyddet ti’n ofnadwy yn gwneud?
Fflebotomydd!
Beth yw dy sgiliau allweddol?
Cynllunio strategol, cyllid a gwerthu