“Rwy’n cyfuno fy angerdd am ddylunio a chreadigrwydd gyda fy niddordeb ychydig mewn dadansoddeg a chynllunio i gynhyrchu ymgyrchoedd marchnata sy’n cyflawni i ni ac i’n cleientiaid”
Anna yw Rheolwr Marchnata BIC. Gyda’i sgiliau dylunio cryf a’i gwybodaeth am Frandio a Marchnata Digidol, mae Anna yn cefnogi prosiectau marchnata ar gyfer BIC ac ar gyfer cleientiaid. Mae Anna yn cefnogi cyflwyno amcanion marchnata trwy ddatblygu gwefannau cyfryngau cymdeithasol allweddol, cylchlythyrau, ymgyrchoedd e-bost, monitro ac adrodd ar ddadansoddeg a thrwy gynhyrchu deunyddiau marchnata ar-lein ac all-lein. Mae hi’n deall potensial marchnata traddodiadol ac e-farchnata ac yn gallu cynllunio a strwythuro strategaethau brandio a marchnata.
Mae Anna yn rheolwr cyfrifon galluog ar ôl rheoli nifer o brosiectau marchnata yn ystod ei chyfnod yn BIC. Mae hi’n defnyddio offer dibynadwy ac yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda’r cleient i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni i ansawdd uchel, ar amser ac o fewn y gyllideb.
Beth wyt ti’n ei hoffi am weithio yn BIC?
Ar ôl gweithio yma ers bron i ddegawd… gobeithio cryn dipyn! Mae hyn siŵr o fod ychydig yn ystrydebol, ond mae’r gwaith mor amrywiol, pur anaml mae dau ddiwrnod yr un peth. Mae ‘na gyfle o hyd i ddysgu rhywbeth newydd. Mae’n rhywle lle mae’ch syniadau’n cael eu clywed ac yn gallu dwyn ffrwyth.
Beth sy’n dy helpu i gwblhau dy waith?
Llyfr nodiadau a beiro da? Ar wahân i hynny, Adobe Illustrator neu Canva. Yn fwy diweddar rydw i’n mwynhau Asana fel offeryn i reoli llif gwaith.
Oes ‘na ymgyrch marchnata sydd wedi aros yn dy gof?
Ychydig cyn fy amser, ond un sydd wedi aros yn fy nghof yw ymgyrch Avis – ‘We try harder’. Cyfuniad mor wych ond mor syml o negeseuon strategol ac ysgrifennu copi creadigol i droi bod yn ail yn y farchnad i ddangos mai nhw sydd â’r gwasanaeth gwell… the line at our counter is shorter’ – Mae’n wych! Hefyd, roeddwn i’n meddwl bod y ddawns flash mob wreiddiol T-Mobile yn gysyniad gwych. Rydw i wrth fy modd gyda brandiau yn tynnu coes ar Twitter – wnaeth yr hashnod #WheetabixandHeinz fi chwerthin bach yn ormod.
Beth yw dy hoff ddywediad?
“Never let the fear of striking out stop you from playing the game” – Iawn, fe glywais y dywediad mewn un o ffilmiau Hilary Duff, ond mae’n debyg bod rhywun bach mwy … dwys … wedi dweud hwn yn gyntaf!
Beth yw dy sgiliau allweddol?
Strategaeth Farchnata, Brandio, Dylunio, Cynllunio