“Fel Cyfarwyddwr Cyllid, rydw i’n darparu cyfeiriad ariannol a threfn rheoli; fel ymgynghorydd, rydw i’n rheoli a darparu rhaglenni cefnogaeth busnes”
Mae Alun yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig ac yn Gyfarwyddwr Cyllid gyda BIC Innovation. Mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad yn y maes cyllid gyda llu o brofiad ymarferol megis systemau ariannol, cyfarwyddiaeth ariannol Redrow PLC, cwmni FTSE 250, a rheoli is-gwmnïau. Fodd bynnag, nid yw ei brofiad yn gyfyngedig i’r sector cwmnïau mawr. Am y pymtheng mlynedd diwethaf mae Alun wedi bod yn gweithio gyda busnesau newydd a busnesau bach a chanolig yn darparu cyngor busnes strategol, darparu cynlluniau busnes, modelu amcanestyniadau ariannol a darparu ystod o wasanaethau ariannol a busnes.
Beth yw’r cyngor orau wyt ti wedi ei dderbyn?
Peidiwch byth â mynd yn rhy dda yn eich swydd neu dyna beth fyddwch chi’n ei wneud am weddill eich gyrfa.
Beth hoffet ti fod wedi’i wybod pan oeddet yn dechrau ar dy yrfa?
“in the modern world the stupid are cocksure while the intelligent are full of doubt.” (Bertrand Russell)
Petai ti’n ymddangos ar Mastermind, beth fyddai dy bwnc arbenigol?
Meic Stevens
Beth yw dy sgil allweddol?
Gwrando