“Rwy’n Rheolwr Prosiect ar gyfer Prosiect Interreg AHFES yng Nghymru, yn cynnal ymchwil bwrpasol ac yn cynhyrchu adroddiadau craff ar gyfer cleientiaid. Rwyf hefyd yn darparu hyfforddiant a mentora i gefnogi busnesau yn y Sector Bwyd a Diod”
Mae Alison yn Ymgynghorydd Busnes rhagweithiol gyda’i ffocws ar y cwsmer. Mae hi’n gweithio’n broffesiynol o fewn y diwydiant bwyd gyda chefndir llwyddiannus mewn sectorau gweithgynhyrchu ac adwerthu gan gynnig ystod o wasanaethau ymgynghori ar draws amryw o wahanol sectorau. Mae hi’n ymchwilydd creadigol ac yn gallu creu mewnwelediad gweithredadwy i gleientiaid o ffynonellau gwybodaeth amrywiol. Gan ei bod yn ymwybodol iawn o fasnach, mae hi’n gallu sicrhau llwyddiant i gleientiaid trwy eu cefnogi i gwmpasu amcanion busnes a diffinio strategaeth i sicrhau twf busnes proffidiol.
Mae Alison yn cyfuno dull ymarferol, creadigrwydd a ffocws cryf ar ddefnyddwyr, ynghyd â meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol o fewn timau traws swyddogaethol. Mae hi’n cynnig cefnogaeth rheoli prosiect ac wedi ymrwymo i gwrdd â therfynau amser, gan sicrhau sylw i fanylion a sbarduno gwelliant parhaus mewn ffyrdd o weithio.
Disgrifia dy brofiad o fewn y sector?
35 mlynedd yn y diwydiant bwyd mewn rolau Prynu ac Arloesi a Datblygu Cynnyrch Archfarchnadoedd. Ymgynghoriaeth ddiweddar ar gyfer busnesau yn y sectorau bwyd a marchnad gyfagos.
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i dy hun?
Nid oes rhaid cael yr holl wybodaeth er mwyn cychwyn ar rywbeth – cymerwch y risg a byddwch yn hyderus y byddwch yn addasu, dysgu a thyfu ar hyd y ffordd.
Beth yw’r datblygiad mwyaf yn y diwydiant bwyd yn ystod y 3 blynedd diwethaf?
Rwy’n credu y bydd gan y gostyngiad mewn mynediad i weithlu UE sy’n gallu symud yn rhydd oblygiadau enfawr o ran sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu yn y blynyddoedd i ddod.
Y lle gorau i ti deithio?
Cwestiwn anodd. Mae’r Western Cape yn Ne Affrica a Vancouver Island yn British Columbia wedi bod yn uchafbwyntiau i mi.
Beth yw dy sgiliau allweddol?
Cyfuno dull creadigol â chreu a darparu cynllun strwythuredig sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.