Rydym yn dylunio rhaglenni
Troi amcanion polisi yn ganlyniadau diriaethol ar gyfer twf economaidd.
Trwy ein dyluniad a gweithrediad o raglenni twf busnes, mae gennym brofiad helaeth o drawsnewid ymgysylltiadau busnesau bach a chanolig, sefydlu Dangosyddion Perfformiad Allweddol, monitro, adroddiadau, rheoli cyllideb a sicrhau bod ein rhaglenni’n sicrhau canlyniadau da a chyraeddadwy i fusnesau a’n partneriaid. Rydym yn deall yr angen i gyflawni amcanion polisi a gweithio i alinio’r amcanion hyn ag anghenion y gymuned fusnes.
Syniadau wedi'u hadeiladu ar fewnwelediadau ac ymgysylltu â diwydiant
Gan ddefnyddio ein profiad o ddatblygu a diogelu rhaglenni twf busnes, rydym yn gallu gweithio gyda’n cleientiaid i gwmpasu, strwythuro a strategaethu rhaglenni newydd ac effeithiol sy’n sicrhau twf busnes a thwf economaidd. Rydym yn adeiladu syniadau yn seiliedig ar ein mewnwelediadau ac ymgysylltiad rheolaidd â’r diwydiant er mwyn sicrhau bod rhaglenni’n cyrraedd anghenion y gymuned fusnes.
Credwn fod ein mewnwelediadau i dirweddau busnesau bach a chanolig a’n dealltwriaeth drylwyr o’r dirwedd cymorth busnes yn ein gwneud yn bartner delfrydol wrth ddatblygu a gweithredu rhaglenni a ariennir sy’n llwyddo.
Ein Llwyddiannau
Bwyd a Diod Cymru Clwstwr Uwchraddio’n Gynaliadwy
Gwnaethom ddatblygu’r cysyniad am glwstwr sy’n uwchraddio busnesau bwyd a diod o Gymru i gydweithredu ac i oresgyn heriau cyffredin. Cyllidwyd drwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig.
Rhaglen Future Foods
Yn seiliedig ar ein datblygiad o’r clwstwr MaethCymru, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, fe wnaethom edrych ar gysyniad Rhaglen Bwydydd y Dyfodol gyda Phrifysgol Aberystwyth a sicrhau cyllid CDRhE i ddarparu ymyriadau Ymchwil a Datblygu ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.
Partner delfrydol wrth ddatblygu rhaglenni sy'n llwyddo.
Wrth ddatblygu rhaglenni newydd, rydym yn dechrau gyda’r her gyffredin ac yn paratoi taflen cysyniad sy’n amlinellu’r dull, y fethodoleg, yr allbynnau/canlyniadau a phartneriaid cyllido posibl. Yna symudwn ymlaen at ddisgrifiad manwl o’r mathau o weithgareddau a fydd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen, ynghyd ag amserlen arfaethedig ar gyfer cyflawni a’r gyllideb. Rydym yn meintioli allbynnau disgwyliedig i sicrhau bod y canlyniadau a ddymunir yn cael eu cyflawni. Gallai hyn gynnwys allbynnau megis nifer y cyfranogwyr, adborth cyfranogwyr, mwy o hyder, Hefyd gall gynnwys mesurau tymor hir fel llwyddiant mewn ceisiadau cyllido, cynhyrchion newydd, gwerthiannau allforio, swyddi newydd ayb…
Fel rhan o’r broses gwmpasu, gyda’n partneriaid cyllido, rydym yn diffinio’r mathau o allbynnau y dylai’r rhaglen eu cyflawni, cytuno ar dargedau penodol ar gyfer yr allbynnau hynny a diffinio’r canlyniadau disgwyliedig sy’n debygol o greu effaith gadarnhaol ar y diwydiant a pherfformiad economaidd.
Ein Harbenigwyr Dylunio Rhaglenni
Mae ein tîm yn meddu ar brofiad helaeth o’r diwydiant ac arbenigedd swyddogaethol. Mae ganddynt brofiad mewn rheolaeth effeithiol, cydymffurfiaeth prosiect, rheolaeth ariannol a monitro perfformiad.
Siaradwch â'n tîm
Gadewch inni drafod eich gofynion
Rydyn ni am i chi gael y gorau o’ch cefnogaeth, felly byddwn ni bob amser yn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy raglen wedi’i hariannu byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.