Rydym yn datblygu clystyrau

Cynhyrchu effaith economaidd trwy ddatblygiad clwstwr

Reolwyr a hwyluswyr clwstwr proffesiynol gyda ddealltwriaeth fanwl o sut mae cydweithredu a rhannu gwybodaeth yn ganolog i ethos y clwstwr ac yn sicrhau effaith economaidd

Rheolwyr a hwyluswyr clwstwr profiadol

Rydym yn rheolwyr a hwyluswyr clwstwr profiadol ac wedi bod yn gweithio gyda chlystyrau un ffurfiol ers 2015. Mae hwyluso clwstwr yn dechrau gyda deall a mapio’r eco-system ac ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn deall gweledigaeth, bwriadau, amcanion ac uchelgeisiau’r clwstwr.

Rydym yn galluogi busnesau i chwarae rhan lawn yn natblygiad clwstwr, gan sicrhau eu bod yn cael eu harwain gan fusnes, tra ein bod yn defnyddio ein profiad a’n craffter masnachol i herio pan fo angen. Mae ein cysylltiadau â’r byd academaidd, y diwydiant a’r trydydd sector yn gry’ iawn ac yn sicrhau ein bod mewn sefyllfa ddelfrydol i hwyluso clystyrau, gan helpu aelodau i gydweithredu a rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau effaith a budd economaidd.

Ein Hwyluswyr Clwstwr Arbenigol

Mae ein tîm o hwyluswyr clwstwr yn cyfuno eu sgiliau datblygu perthynas, arbenigedd diwydiant a sector, craffter masnachol, a dealltwriaeth glir o sut i adeiladu ymddiriedaeth a chydweithrediadau rhwng diwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth.

Cyfarwyddwr Gweithredol
Cyfarwyddwr Gweithredol
Rheolwr Rhaglen – Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy
Rheolwr Hwyluso Bwydydd y Dyfodol ac Arweinydd Clwstwr Nutri-Cymru
Siaradwch â'n tîm

Gadewch inni drafod eich gofynion

Rydyn ni am i chi gael y gorau o’ch cefnogaeth, felly byddwn ni bob amser yn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy raglen wedi’i hariannu byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.

We work with