Rydym yn sicrhau canlyniadau

Trawsnewid ymgysylltiad y sector cyhoeddus â busnesau bach a chanolig.

Ymddiriedig mewn cyflwyno a rheoli rhaglenni, sicrhau cydymffurfiaeth prosiect a chydymffurfiaeth ariannol, ymgorffori prosesau, a sicrhau bod y rhaglen a ddarparwn yn sbarduno canlyniadau diriaethol.

Cyflwyno prosiectau ar amser, o fewn y gyllideb a sicrhau effaith.

Rydym yn dîm profiadol o reolwyr prosiect sydd wedi cyflwyno cannoedd o brosiectau yn llwyddiannus. O gynllunio strategol, cyllidebu effeithiol, rhagweld effeithlon i reoli risg, monitro parhaus i sicrhau bod pob prosiect yn cael i’w gyflawni’n gywir. Gallwn weithio gyda’n partneriaid cyllido i gyflawni prosiectau ar amser, o fewn y gyllideb a sicrhau effaith.

Rydym yn defnyddio ystod o offer i sicrhau bod ein prosiectau mor fanwl â phosib, yn cyflawni amcanion ac yn aros o fewn y gyllideb. Cytunir ymlaen llaw gyda’r cleient ar unrhyw newidiadau o’r cynllun prosiect gwreiddiol gan nodi unrhyw oblygiadau cyllidebol. Rydym yn defnyddio cynllun gweithredu prosiect, siartiau gantt i reoli llinellau amser ac yn diweddaru cofrestrau risg deinamig yn rheolaidd i liniaru risgiau gweithredol a chorfforaethol a nodwyd.

Ein Llwyddiannau

01.

Innovate UK EDGE

Ers 2012 rydym wedi bod yn cefnogi busnesau bach a chanolig ac yn gweithio gyda’n partneriaid consortiwm fel rhan o’r  Rhwydwaith Menter Ewrop (EEN). Rydym yn darparu cefnogaeth bwrpasol ar gyfer twf ac uwchraddio i fusnesau arloesol ar ran Innovate UK sy’n edrych ar arloesi, twf a rhyngwladoli.  Trwy’r consortiwm mae ein cleientiaid yn elwa o gymorth arbenigol arloesi a thwf, mynediad at bartneriaid, rhwydweithiau a marchnadoedd rhyngwladol.

02.

Canolfan Cydweithredol Cymru

Yn 2011, penodwyd BIC Innovation gan Ganolfan Cydweithredol Cymru i’w fframwaith ar gyfer cyflwyno rhaglen Busnes Cymdeithasol Cymru ac rydym wedi ein derbyn i’w fframwaith ers hynny, gan gynnwys y fframwaith cyfredol sy’n rhedeg hyd at 2023.

03.

Rhaglen Barod am Fuddsoddiad

Mae’r rhaglen hon yn darparu cefnogaeth wrth ddatblygu systemau gwybodaeth ariannol yn unol â thwf busnes a dod o hyd i gronfeydd i gefnogi’r twf hwnnw. Y nod yw gwneud busnesau Bwyd a Diod yng Nghymru yn fwy ymwybodol a chadarn yn ariannol ac o ganlyniad yn fwy deniadol i fuddsoddiad posibl. Ers 2018 rydym wedi cefnogi dros 200 o fusnesau bwyd a diod gydag ystod o gymorth ariannol / masnachol o gadw llyfrau sylfaenol i hwyluso buddsoddiad.

Mae ein prosesau wedi'u hardystio gan ISO 9001.

Rydym yn dechrau gyda dealltwriaeth drylwyr o nodau ac amcanion pob rhaglen; rydym yn defnyddio prosesau a thempledi rheoli cadarn gan ddal elfennau allweddol pob rhaglen, yn nodi dyddiadau pwysig, terfynau amser a chyfrifoldebau. Rydym yn defnyddio statws Coch, Ambr, Gwyrdd i dynnu sylw at faterion / monitro cyflenwi. Mae hyn yn rhoi llwybr beirniadol a chlir i’r tîm / cleient i gwblhau. Rydym yn cynnal galwadau / cyfarfodydd tîm rheolaidd gyda’r cleient er mwyn rheoli gweithrediad gan gymryd y camau priodol i sicrhau bod pob dim ar amser neu i nodi’r materion hynny sydd angen eu gweithredu ymhellach.

Ein Harbenigwyr Rheoli Prosiectau

Mae ein tîm yn meddu ar brofiad helaeth o’r diwydiant ac arbenigedd swyddogaethol. Mae ganddynt brofiad mewn rheolaeth effeithiol, cydymffurfiaeth prosiect, rheolaeth ariannol a monitro perfformiad.

Cyfarwyddwr Gweithredol
Cyfarwyddwr Gweithredol
Siaradwch â'n tîm

Gadewch inni drafod eich gofynion

Rydyn ni am i chi gael y gorau o’ch cefnogaeth, felly byddwn ni bob amser yn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy raglen wedi’i hariannu byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.

We work with