Rydym yn credu mewn cydweithio
Mae cydweithio wrth wraidd ein hethos. Rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda'n partneriaid dibynadwy; yn cyfuno adnoddau ac arbenigedd i ddarparu gwerth i'n cleientiaid.
Rydym yn gweithio gyda’n rhwydwaith o bartneriaid, gan gyfuno adnoddau ac arbenigedd i ddatblygu a gweithredu rhaglenni cydweithredol sy’n ychwanegu gwerth i’n cleientiaid a’n partneriaid.
Mae cydweithio yn flaenllaw
Mae cydweithredu wrth wraidd llawer o’n rhaglenni. Er enghraifft, mae llawer o’r rhaglenni rydym yn eu cynnig yn cael eu cyflwyno mewn cydweithrediad â’n partneriaid. O fewn ein clystyrau, rydym yn cefnogi ffurfio Grwpiau Diddordeb Arbennig sydd yn cynnwys gweithgorau cydweithredol. Mae’r rhain yn ceisio gwella eu hallbwn Ymchwil a Datblygu, mynd i’r afael â marchnadoedd newydd, neu oresgyn her gyffredin trwy gydweithredu.
Enghraifft o raglen arall yr ydym yn cefnogi ac yn annog cydweithredu yw drwy ddarparu gwasanaethau Innovate UK EDGE yng Nghymru. Mae’r rhaglen hon, sydd wedi ei ariannu, yn helpu busnesau bach a chanolig y DU i gysylltu a rhyngweithio â chwmnïau ar lefel byd-eang mewn partneriaethau a mentrau cydweithredol. Consortiwm ydyw, gyda nifer o bartneriaid cyflenwi cydweithredol o bob rhan o’r DU, Ewrop a thu hwnt.
Pam fod cydweithio’n bwysig i ni?
Mae ein gwaith cydweithredol yn ymestyn ymhellach na dim ond ein partneriaid yng Nghymru a’r DU. Rydym yn gweithio’n rheolaidd gyda chlystyrau eraill, llywodraethau rhanbarthol, a’r byd academaidd ar lefel rhyngwladol. Mae’r prosiectau cydweithredol a rhyngwladol hyn yn ein galluogi i drosoli gwybodaeth, mewnwelediadau a pherthnasoedd gan y partneriaid rhyngwladol hyn. Rydym wedi adeiladu ein henw da o fod yn bartner sy’n canolbwyntio ar weithredu, sy’n ychwanegu gwerth sylweddol at gydweithrediadau rhyngwladol, yn cyflawni canlyniadau ac yn cwrdd â therfynau amser gyda chyflwyniadau hawliadau cywir ac amserol.
Rydym bob amser yn awyddus i greu perthnasoedd newydd, yn enwedig pan fo’ gennym rywbeth unigryw i’w gynnig, boed yn bartneriaeth newydd neu’n un sy’n bodoli eisoes sydd yn sicrhau effaith a chanlyniadau i’w heconomïau lleol neu ranbarthol. Cysylltwch â ni.
Siaradwch â'n tîm
Gadewch inni drafod eich gofynion
Rydyn ni am i chi gael y gorau o’ch cefnogaeth, felly byddwn ni bob amser yn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy raglen wedi’i hariannu byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.