Pwy ydym ni

Rydyn ni wedi bod yn trawsnewid perfformiad ac yn hwyluso prosiectau arloesi ar gyfer cleientiaid ers 1993.

Ein Gweledigaeth: I gyflawni gwell, gyda’n gilydd

Ein Cenhadaeth: Hwyluso llwyddiant I fentrau uchelgeisiol drwy ethos o gydweithredu, arloesedd a dycnwch

Dechreuon ni fel ‘BIC Eryri’, Canolfan Arloesi Busnes ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru. Gyda newidiadau yn 2004, daethom yn gwmni ymgynghori preifat, gan arbenigo mewn arloesi a thwf. Ers hynny rydym wedi ehangu y tu hwnt i Ogledd Cymru, gan weithio gyda chleientiaid ledled y DU ac ar draws y byd. Yn 2018 dechreuon ni ar ein taith newid ein hunain a chymryd y cam i drosglwyddo i fusnes Hybrid gyda’r staff yn ran berchnogion.

Mae ein tîm yn tyfu, mae ein gwasanaethau’n ehangu, ac rydym yn parhau i gynhyrchu canlyniadau effeithiol i’n cleientiaid.

Ein Pedwar Gwerth

Mae arloesi wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn sicrhau ffyrdd newydd o feddwl, ffyrdd newydd o weithio ac wrth ein bodd yn herio’r drefn. Mae ein diwylliant o arloesedd wedi’i wreiddio yn ein gwerthoedd.

Parch a chefnogaeth gilyddol

Parchu pobl, eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad, fel unigolion ac fel aelodau tîm, gan ddarparu diwylliant gwaith cefnogol

Arloesi er mwyn gwella

Derbyn newid a dyheu am wella er mwyn helpu ein cleientiaid i wella hefyd.

Darparu gwerth i gleientiaid

Trwy fewnwelediadau deallus, rhagdybiaethau heriol a chyfathrebu agored a gonest.

Rhoi gwerth yn ôl i'n cymunedau

Cefnogi ein pobl i wirfoddoli neu weithredu fel mentoriaid gyda sefydliadau cymunedol. Cadw ein cadwyn gyflenwi mor lleol â phosib.

Mae ein tîm wrth eu bodd gyda sialens...

Mae ein tîm yn dod â sgiliau, mewnwelediad, arbenigedd a gwybodaeth a ddatblygwyd dros flynyddoedd o weithio ar lefelau uchel o fewn diwydiant, yn aml gyda chwmnïau adnabyddus. Mae ein tîm eang yn cynnwys uwch gymdeithion sy’n cynnig sgiliau arbenigol ac yn caniatáu inni lunio’r tîm gorau posibl ar gyfer pob cleient. Rydym yn gwybod bod anghenion pawb yn wahanol.

Huw Watkins
Cyfarwyddwr Gweithredol
Cadeirydd
Cyfarwyddwr Gweithredol
Cyfarwyddwr Gweithredol
Siaradwch â'n tîm

Gadewch inni drafod eich gofynion

Rydyn ni am i chi gael y gorau o’ch cefnogaeth, felly byddwn ni bob amser yn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy raglen wedi’i hariannu byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.

We work with