Gyrfaoedd
Rydym yn chwilio am gynghorwyr talentog sy'n rhannu ein dyhead am dwf, rhagoriaeth ac arloesedd.
Yn ôl yn 2004, dim ond 3 o bobl oedden ni ac yn gwneud bach o bob dim. Rydym wedi tyfu’n aruthrol ers hynny. Er ein bod wedi tyfu a phrofi llawer o newidiadau ers dechrau ein busnes, mae ein hethos yn dal i fod yn wir; arloesedd, gwerth a pharch sydd wrth wraidd yr hyn a wnawn bob tro.
Yr hyn sy'n ein gwneud ni'n arbennig yw ein pobl. Eu profiadau, eu hangerdd a hyd yn oed eu camgymeriadau.
Dyna pam rydyn ni’n trin ein pobl fel … pobl. Pobl sydd â theuluoedd, pobl sydd â barn, pobl sydd â syniadau, pobl sydd â diddordebau. Rydym yn gwybod bod mwy i fywyd na gwaith ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr hyblyg a chefnogol sy’n meithrin cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Mae’r hyn sy’n bwysig i chi, yn bwysig i ni.
Buddion
Cyflogwr Lles
Mae rhai o’r buddion yn cynnwys gwasanaeth cwnsela cyfrinachol allanol ar gyfer ein tîm a’u teuluoedd, cymorth cyntaf iechyd meddwl, a’n diwrnod lles blynyddol.
Cynllun cyfranddaliadau perchnogaeth i weithwyr
Cydnabod bod aelodau ein tîm wrth wraidd ein busnes, mae gan weithwyr gyfle i brynu cyfranddaliadau a rhannu llwyddiant y cwmni.
Yswiriant Bywyd x 2 eich cyflog
Darparu rhywfaint o gymorth ariannol i’ch teulu mewn amodau annirnadwy.
Bywyd gyda BIC
Gwneud gwahaniaeth
Bob dydd mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn BIC yn gwneud gwahaniaeth i’n cleientiaid. Rydym yn cefnogi ein cleientiaid i fynd i’r afael â heriau a sicrhau canlyniadau iddynt. Mae hyn yn golygu y gallwch ymfalchïo yn eich gwaith a byddwch yn sicrhau canlyniadau diriaethol sy’n trawsnewid busnesau.
Amrywiaeth
Gyda rhestr gynyddol ac amrywiol o gleientiaid, prosiectau a rhaglenni i gyflawni, pob un â’i set unigryw o heriau, gallwn ddweud gyda sicrwydd fod pob diwrnod yn wahanol. Mae hyn yn golygu y gallwch chi fwynhau gyrfa ysgogol a gwerth chweil gyda ni trwy fynd i’r afael ag ystod o heriau a mwynhau amrywiaeth o brosiectau newydd.
Eich dewis chi
Er bod gennym swyddfeydd yn Ynys Môn, Aberystwyth a Phen-y-bont, rydym hefyd yn darparu’r opsiwn i weithio o adref, neu i weithio o fewn model hybrid – ychydig o’r ddau Mae ein tîm yn byw ledled Cymru a thu hwnt, ac mae ein systemau wedi’u cynllunio i’n cadw ni mewn cyswllt. Mae hyn yn golygu bod gennych yr hyblygrwydd i weithio yn y ffordd rydych chi’n fwyaf cyfforddus a chynhyrchiol.
Buddsoddi yn eich dyfodol
Rydym yn gweithredu menter o’r enw ‘STEP Talk’ sy’n gyfle i rannu, archwilio, trafod y dyfodol a chynllunio’r camau nesaf o fewn eich rôl a’ch datblygiad gyda BIC. Mae hyn yn dangos ein bod yn buddsoddi amser i ddatblygu ein timau. Pan fydd ein tîm yn llwyddo, ry’ ni’n llwyddo.
Tîm cefnogol
Rydym yn dîm o dros 50 o weithwyr proffesiynol, pob un â’u sgiliau a’u gwybodaeth arbenigol eu hunain. Rydym yn gweithio fel tîm, yn rhannu syniadau ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd. Yn ystod eich ychydig fisoedd cyntaf, byddwch yn cael cyfaill penodedig o fewn y cwmni. Mae hyn yn golygu, os nad oes angen cymorth arnoch chi, ry’ ni yma i’ch helpu.
Hen Wlad ein Tadau.
Mae ein diwylliant wedi’i wreiddio’n ddwfn yng Nghymru; rydym yn cyfuno ein balchder yn ein treftadaeth Gymreig gyda rhagolwg rhyngwladol, gan weithio gyda phartneriaid ledled y byd. Rydym yn gwmni dwyieithog gyda llawer o staff sydd yn rhugl yn y Gymraeg yn ogystal ag ieithoedd eraill.