Gyda phwy rydyn ni'n gweithio

Cefnogaeth arbenigol ac ymarferol sy'n galluogi busnesau gwyddor bywyd i dyfu a chyrraedd eu potensial.

Ydych chi’n gwmni sydd â chynnyrch neu wasanaeth gwyddonol arloesol? A yw’ch busnes mewn cyfnod lle mae angen cefnogaeth arno i dyfu? Efallai eich bod chi’n ddyfeisiwr sy’n profi anawsterau gyda chynhyrchu refeniw?

Mae ein tîm Gwyddorau Bywyd yn llawn arbenigedd busnes credadwy, masnachol ac yn barod i fynd i’r afael â’ch anghenion busnes penodol. Rydym yn cynnig gwasanaethau ymarferol i fusnesau gwyddor bywyd i ddarparu gwybodaeth i gefnogi twf, gwella cystadleurwydd a chadw talent. Mae ein dull hyblyg yn golygu y gallwch dderbyn ein cefnogaeth pan fydd angen help arnoch trwy ymgynghoriaeth breifat, neu drwy fynediad at raglenni a ariennir – i weddu i’ch anghenion.

Mae ein cefnogaeth deilwredig ar gyfer y diwydiant Gwyddor Bywyd yn cynnwys:

Cyllid

Rheoli eich llif arian yn effeithlon a chael dealltwriaeth o sut i gael gafael ar gyllid buddsoddwyr

Masnachol

Deall eich marchnad a sut i ddod â chynhyrchion / gwasanaethau i’r farchnad honno

Rheoleiddio

Cymorth arbenigol gyda materion rheoliadol a chyrraedd safonau ansawdd

Adnoddau Dynol

Sicrwydd bod eich cwmni’n cydymffurfio â deddfwriaeth AD gyda chyngor arbenigol

Mae gennym arbenigedd sector penodol mewn:

We work with