Gyda phwy rydyn ni'n gweithio

Rydym yn defnyddio ein harbenigedd swyddogaethol ynghyd â'n gwybodaeth sector er mwyn tyfu busnesau Bwyd a Diod sydd yn gynaliadwy.

Ydych chi’n chwilio am arweiniad ar ddatblygu’ch marchnadoedd ac arallgyfeirio’ch llinellau cynnyrch? Angen cefnogaeth i neilltuo adnoddau Ymchwil a Datblygu gwerthfawr i ddatblygu cynhyrchion sydd eu hangen ar y farchnad? Efallai eich bod yn chwilio am gymorth i reoli cyllid eich busnes ar gyfer effeithlonrwydd, gwytnwch, hyblygrwydd gweithredol a rheolaeth reoli?

Mae gan ein tîm o ymgynghorwyr bwydydd amaeth sgiliau ac arbenigedd technegol, gweithredol, masnachol a strategol y maent wedi’u datblygu ers blynyddoedd o weithio ar lefelau uchel o fewn y diwydiant bwyd. Mae llawer o’n tîm wedi treulio eu gyrfaoedd diwydiannol yn y sector bwyd a diod, gan arwain at wybodaeth a dealltwriaeth ddofn a thrylwyr o’r heriau a’r cyfleoedd unigryw a wynebir yn y sector.

Mae ein cleientiaid yn cynnwys cwmnïau o bob maint, o bob sector bwyd a diod ac rydym yn gweithio gyda nhw i’w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau tyfiant. Rydym hefyd yn gweithio gyda nifer o ymgynghoriaethau bwyd a diod arbenigol mewn gwledydd eraill.

Mae ein cefnogaeth deilwredig ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod yn cynnwys:

Cynllunio strategaeth a busnes

Deall eich marchnad a sut i ddod â chynhyrchion / gwasanaethau i’r farchnad honno

Ymchwil a Datblygu ac Arloesedd

Datblygu syniadau a throi’r syniadau hynny yn gynhyrchion newydd er mwyn amrywio eich llinellau cynnyrch

Gweithrediadau

Adolygu a gwella prosesau gweithgynhyrchu i gynyddu cynhyrchiant

Rhyngwladoli

Gwasanaethau yn cynnwys datblygu strategaeth allforio, cynlluniau mynediad i’r farchnad, teithiau masnach

Mae gennym arbenigedd sector penodol mewn:

We work with

Sign up to our newsletter and be the first to hear about news and events from BIC Innovation

This website uses cookies to give you the best user experience. If you choose to continue using this website, you agree to our use of cookies.