Gyda phwy rydyn ni'n gweithio

Yr hyn sy'n ein huno gyda'n cleientiaid yw ein dyhead i dyfu, rhagori ac arloesi.

Mae gan ein harbenigwyr arbenigedd ar draws sectorau allweddol, gan gynnig atebion arbenigol wedi’u teilwra er mwyn helpu’ch busnes i dyfu.

Bwyd a Diod

Mae gan ein tîm o arbenigwyr bwyd a diod sgiliau ac arbenigedd technegol, gweithredol, masnachol a strategol y maent wedi’u datblygu ers blynyddoedd o weithio ar lefelau uchel o fewn y diwydiant bwyd.

Mae ein cleientiaid yn cynnwys cwmnïau o bob categori bwyd a diod ac rydym yn gweithio gyda nhw i’w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau twf.

Gwyddor Bywyd

Mae ein harbenigwyr gwyddor bywyd wedi gweithio yn y sector gofal iechyd a gwyddorau bywyd at lefelau uchel iawn. Mae’r rolau wedi cynnwys gwerthu a datblygu busnes, Ymchwil a Datblygu, gweithrediadau, cyfrifoldebau clinigol a rhyngwladol.

Rydym yn cynnig arbenigedd mewn gwyddorau bywyd gan gynnwys bioleg, biotechnoleg, fferyllol, diagnosteg in vitro, orthopaedeg, e-iechyd a gofal iechyd ar gyfer profiad dyfeisiau meddygol.

Economi Gylchol

Mae gennym dîm craidd o gynghorwyr sydd â degawdau o brofiad yn cyflwyno prosiectau a gwasanaethau yn y maes rheoli adnoddau. Mae ein galluoedd yn cefnogi strategaethau i reoli agenda Sero Net ar gyfer pob math o sefydliad, sbarduno cynnydd mewn cylchrediad a thechnegau i gyflymu’r trawsnewidiad tuag at ddatgarboneiddio’r economi. Rydym yn gweithio i ddarparu datrysiadau carbon isel, gwastraff isel sydd wir yn gwneud gwahaniaeth.

Sectorau eraill rydyn ni'n gweithio gyda nhw

Mae gennym hefyd arbenigedd a phrofiad penodol yn y meysydd canlynol.

Gweithgynhyrchu Uwch

Cefnogi gweithgynhyrchwyr gyda chynhyrchion a gwasanaethau newydd sy’n gystadleuol yn fyd-eang, gan greu IP neu drwyddedau eu hunain. Archwilio modelau busnes newydd, cadwyni cyflenwi a datblygu cydweithredol gyda busnes a’r byd academaidd.

Cefnogi Parciau Gwyddoniaeth

Rydym yn gweithio gyda pharciau gwyddoniaeth a chanolfannau arloesi i ddatblygu cysyniadau a chynllunio busnes. Yna byddwn yn ychwanegu gwerth trwy ddod yn rhan o’r ecosystem gan integreiddio ein gwasanaethau er budd tenantiaid ac aelodau.

Busnesau Cymdeithasol

Rydym yn deall yr angen i fentrau cymdeithasol gydbwyso a chyflawni eu hamcanion cymdeithasol a busnes er mwyn sicrhau cynaliadwyedd. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o fentrau cymdeithasol sy’n edrych i dyfu, trwy gynyddu eu trosiant, arallgyfeirio i gynhyrchion neu wasanaethau newydd, denu cwsmeriaid newydd neu drwy newid eu strwythur.

Mae ein gwasanaethau a’n rhaglenni yn ymestyn ymhellach na’r sectorau hyn yn unig, gyda llawer o’n gwaith yn aml-sector.

Er bod gennym arbenigedd yn y sectorau hyn, mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau a’r gefnogaeth ariannol a gynigiwn yn drosglwyddadwy a gellir cyfieithu arfer da o’r sectorau penodol hyn er mwyn creu canlyniadau mewn sectorau eraill.