Rydym yn Cyflymu Tŵf
Rydym yn grymuso busnesau i uwchraddio’n well, uwchraddio'n gyflymach ac uwchraddio'n ddoethach
Gall uwchraddio deimlo fel gyrru drwy’r anialwch. Er mwyn llwyddo mae angen tanwydd, offer, pobl a chyfeiriad arnoch. Heb hynny mae’n debyg y bydd methiant yn anochel. Mae yna lawer o gynhwysion hanfodol er mwyn sicrhau twf cynaliadwy i’ch busnes, a dyna’r fenter fwyaf amlddisgyblaethol y gall unrhyw gwmni wneud. Ydych chi ar y trywydd iawn i gyrraedd eich cyrchfan?
Ewch â'ch twf i'r lefel nesaf.
Mae twf organig yn canolbwyntio ar gynhyrchu mwy a chynyddu gwerthiant wrth ehangu er mwyn hwyluso’r twf hwn, er enghraifft, prynu offer newydd, neu gyflogi mwy o staff. Er bod y busnesau mwyaf llwyddiannus yn profi twf dros amser, mae uwchraddio’n dasg anoddach o lawer i’w gyflawni.
Mae yna lawer o wahaniaethau rhwng twf ac uwchraddio. Yn y bôn, mae tyfu’ch busnes yn golygu eich bod chi’n gallu delio â thwf sylweddol gyda chostau ychwanegol cynyddrannol yn unig. Mae busness sy’n uwchraddio yn fusnes twf uchel sy’n edrych i fynd â’u tyfiant i’r lefel nesaf. Yn gyffredinol, diffinnir tyfiant uchel fel cwmni sydd wedi sicrhau twf o 20% neu fwy mewn cyflogaeth neu drosiant flwyddyn ar ôl blwyddyn am o leiaf dwy flynedd. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau twf, gall ein tîm eich tywys ar eich taith.
Sut allwn ni eich helpu:
Denu Buddsoddiad
Mae busnes sy’n tyfu yn aml yn gofyn am fuddsoddiad i gefnogi ei uchelgeisiau twf. Ond i fusnesau llai gall hyn fod yn frawychus. Rydym yn gweithio gyda chi i archwilio opsiynau buddsoddi a darparu cyngor ar sut i ddenu’r buddsoddiad hwnnw.
Gwell Ymwybyddiaeth Ariannol
Cyllid yw asgwrn cefn unrhyw fusnes. Mae gwybodaeth gyfrifeg gywir yn helpu tyfiant trwy’r gallu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus. Mae ein tîm o gyfrifwyr ar gael i’ch helpu i strwythuro gweithdrefnau cyfrifyddu sy’n hwyluso dadansoddi, sylwi ar dueddiadau a chynllunio busnes.
Blaenoriaethu meysydd allweddol ar gyfer twf
Tra’ch bod chi’n adnabod eich busnes yn well nag unrhyw un arall, gofynnwch, a oes gennych chi’r amser neu’r profiad i edrych ar eich systemau a deall yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrthych chi? Gyda data integredig gallwn eich helpu i wneud y penderfyniadau gorau i dyfu.
Rydym yn gweithio gyda busnesau sydd ag uchelgais i dyfu neu uwchraddio
Uwchraddio yw’r fenter fwyaf amlddisgyblaethol y gall unrhyw gwmni ei wneud. Mae gan ein harbenigwyr twf ac uwchraddio cyfoeth o wybodaeth ac maent wedi rheoli prosiectau uwchraddio trawsnewidiol o bob lefel, ar gyfer busnesau mawr a bach, ar draws sawl diwydiant.
Gall ein harbenigwyr tyfiant helpu eich tîm rheoli i ganolbwyntio ar y camau nesaf sydd eu hangen ar gyfer tyfu. P’un a yw’r gefnogaeth honno’n dod trwy arweinyddiaeth uwchraddio, cefnogaeth i weithredu’ch cynlluniau twf neu helpu i oresgyn rhwystrau, gall ein tîm eich tywys ar eich taith i dyfu.
Rydym yn deall pa ddata sydd ei angen ar ein cleientiaid i wneud penderfyniadau gwell. Gyda data integredig, rydym yn helpu ein cleientiaid gyda rhagamcanion treigl, gwell systemau a phrosesau gwybodaeth, dangosyddion perfformiad allweddol, a chynlluniau i ehangu a thyfu. Rydym yn sicrhau bod systemau gwybodaeth ein cleientiaid yn addas ar gyfer uwchraddio.
- Arweinyddiaeth uwchraddio
- Gweithredu cynlluniau twf
- Goresgyn rhwystrau
- Datrys Problemau
- Dylunio a gweithredu systemau
- Defnyddio data a gwybodaeth
- Datblygu DPA
- Rhagamcanion treigl
- Cadw llyfrau
- Cyllidebu a rhagweld
- Gwella ymwybyddiaeth ariannol
- Hyfforddiant
- Archwilio opsiynau buddsoddi
- Nodi cyfleoedd cyllido
- Sicrhau eich bod yn barod am fuddsoddiad
Heriau y gallwn ni eu datrys:
Rydym yn bwriadu cynyddu cynhyrchiant ond mae angen inni fuddsoddi mewn peiriannau newydd. Sut dylen ni fynd ati i godi arian?
Wrth i fy nghwmni dyfu, mae angen i mi wybod beth sy’n digwydd o hyd. Sut y gallwn ddatblygu system gwybodaeth reoli sy’n fy hysbysu?
Gwelwch: Torri Tir: Gwireb twf busnes – gall y bos ddim gwneud popeth!
Sut dylwn i fod yn strwythuro fy musnes? A ddylwn i fod yn fusnes corfforedig neu anghorfforedig?
Gwelwch: Torri Tir: Corfforedig neu anghorfforedig – y wybodaeth
Ein Harbenigwyr Twf ac Uwchraddio:
Mae ein tîm Twf Busnes yn arbenigwyr rheoli profiadol wedi darparu ‘pwynt trosglwyddo’ i nifer o gwmnïau mewn ystod eang o sectorau gan eu helpu hyd at eu cam datblygu nesaf.
Siaradwch â'n tîm
Gadewch inni drafod eich gofynion
Rydyn ni am i chi gael y gorau o’ch cefnogaeth, felly byddwn ni bob amser yn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy raglen wedi’i hariannu byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.