RYDYN NI'N ARCHWILIO MARCHNADOEDD
Rydyn ni'n eich helpu chi i gyrraedd uchelfannau newydd trwy archwilio llu o gyfleoedd newydd...
Mae busnesau sy’n masnachu’n rhyngwladol yn aml yn fwy gwydn a phroffidiol. Gall datblygu busnes rhyngwladol fod yn frawychus. Gyda marchnadoedd byd-eang yn esblygu o hyd, ynghyd â’r cymhlethdod ychwanegol o reoliadau, dyw masnachu rhyngwladol ddim yn gyflym na hawdd. Ond, mae’r dywediad yn wir, “The door will open only for those bold enough to knock”. Mae gennych chi lu o botensial, gadewch i ni ei ddarganfod gyda’n gilydd?
Mae twf byd-eang yn dod â set unigryw o rwystrau.
Mae gwleidyddion ac economegwyr yn cytuno bod mwy o fasnachu rhyngwladol yn dda i’r economi, ac mae busnesau bach a chanolig sy’n dewis masnachu’n drawsffiniol yn fwy tebygol o dyfu a bod yn llwyddiannus. Fodd bynnag, gall manteisio ar y cyfleoedd masnachu rhyngwladol hynny fod yn heriol i lawer o fusnesau bach a chanolig sydd â blaenoriaethau ac adnoddau cyfyngedig.
Mae paratoi ar gyfer twf byd-eang yn dod â set unigryw o rwystrau. Bydd angen i fusnesau sy’n newydd i fasnachu rhyngwladol ateb cwestiynau fel beth yw’r gost ychwanegol o werthu mewn marchnadoedd newydd? Sut y bydd pobl yn derbyn ein cynnyrch mewn marchnadoedd newydd? A oes angen i ni addasu ein negeseuon marchnata? Sut ydyn ni’n rheoli’r logisteg? Efallai bydd allforwyr profiadol fod yn pendroni, sut mae rheoli cadwyni cyflenwi rhyngwladol? Sut alla i ddod o hyd i bartneriaid newydd? Sut alla i ddilyn y camau priodol ar gyfleoedd newydd? Gall ein tîm eich helpu i ddod o hyd i’r atebion sydd eu hangen arnoch.
Sut allwn ni eich helpu:
Sicrhau busnes newydd
Mae marchnadoedd newydd yn dod â chyfleoedd newydd. Mae ein tîm o arbenigwyr allforio yn gweithio gyda busnesau i ddatblygu marchnadoedd newydd, sicrhau busnes newydd a goresgyn rhwystrau. Rydym yn cynnig cefnogaeth ymarferol i ddatblygu sgiliau eich tîm.
Gwella gwybodaeth a chysylltiadau
Gallwn helpu gyda chwilio am ddosbarthwyr, asiantau, partneriaid ymchwil a datblygu newydd a drwy ddatblygu’ch cadwyn gyflenwi ryngwladol. Fe weithiwn gyda chi i adnabod partneriaid, datblygu cysylltiadau, rhagolygon cymwys ac i ddilyn y camau priodol.
Dod o hyd i’r marchnadoedd cywir
Nid aur yw popeth melyn. Mae’n hanfodol deall pa farchnadoedd sydd fwyaf addas i chi, a pha rai sydd ddim. Gall ein tîm eich helpu i ddeall y farchnad a pha lwybrau i’r farchnad sydd fwyaf addas i sicrhau bod eich mynediad i’r farchnad yn llwyddiannus.
Rydyn ni'n eich helpu i ehangu'ch gorwelion
Gallwn eich helpu i adnabod ac ymchwilio i farchnadoedd targed, datblygu eich strategaethau mynediad i’r farchnad, nodi llwybrau i’r farchnad (gan gynnwys sianeli a phrynwyr), gwerthuso strategaethau prisio a dod o hyd i gyflenwyr a fydd yn eich helpu i ehangu’ch gorwelion, tyfu, uwchraddio’ch busnes a llwyddo dramor.
Mae ein harbenigwyr allforio wedi treulio eu gyrfaoedd masnachol yn datblygu marchnadoedd tramor ar draws sawl categori. Rydyn ni’n gwybod sut brofiad yw profi marchnadoedd cwbl newydd ac adeiladu brandiau ar lefel rhyngwladol. Mae gennym y dystiolaeth i brofi hyn! Gallwn helpu allforwyr newydd, di-brofiad a phrofiadol i ddatblygu eu galluoedd a’u potensial trwy ddatblygu strategaeth allforio a thrwy gynnig cefnogaeth ymarferol.
- Darganfod busnes allforio newydd
- Datblygu sgiliau allforio
- Goresgyn rhwystrau allforio
- Adnabod partneriaid
- Cyngor ar ddilyn y camau priodol
- Cydweithio
- Nodi’r llwybrau i’r farchnad
- Deall y farchnad
- Ymchwil marchnad
- Datblygu strategaeth
Ein harbenigwyr Rhyngwladoli
Mae ein harbenigwyr allforio wedi treulio eu gyrfaoedd masnachol yn datblygu marchnadoedd tramor ar draws sawl categori.
Siaradwch â'n tîm
Gadewch inni drafod eich gofynion
Rydyn ni am i chi gael y gorau o’ch cefnogaeth, felly byddwn ni bob amser yn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy raglen wedi’i hariannu byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.