Rhaglenni a Ariennir a Phartneriaid

Cefnogaeth i'ch busnes, wedi'i ariannu gan fentrau'r Llywodraeth, a ddarperir gan ein harbenigwyr...

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau’r sector cyhoeddus i ddarparu sawl rhaglen a menter twf busnes sydd wedi’u hariannu er mwyn cefnogi twf economaidd.

Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy un o’n rhaglenni a ariennir, byddwn yn gadael chi wybod. Mae cymhwysedd ar gyfer y rhaglenni a gyflwynwn yn amrywio, ond byddwn yn rhoi cyngor ar y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer eich heriau unigol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhaglenni penodol trwy’r gwefannau isod.

Ein rhaglenni:

Barod am Fuddsoddiad (Bwyd a Diod)

Cefnogaeth i ddatblygu systemau gwybodaeth ariannol yn unol â thwf busnes ac i ddod o hyd i gronfeydd i gefnogi’r twf hwnnw. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r rhaglen hon yn agored i Fusnesau Bwyd a Diod yng Nghymru:

Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy (Bwyd a Diod)*

Wedi’i gynllunio ar gyfer busnesau bwyd a diod o Gymru sydd ag uchelgais i dyfu, mae’r clwstwr yn cefnogi busnesau i fynd i’r afael â heriau allweddol trwy ddarparu mynediad i ddatblygu arbenigedd am ariannu, mynediad at gyllid, cynhyrchu / cynhyrchiant a gwybodaeth reoli.

*Ariannir y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig Cyflwynir gan BIC Innovation.

Rhaglenni rydym yn bartneriaid ynddynt:

Innovate UK Business Growth (Innovate UK EDGE yn flaenorol)

Wedi’i ddarparu gan dîm profiadol o arbenigwyr arloesi a thyfu sydd ag ystod eang o arbenigedd busnes, mae gwasanaethau Innovate UK Business Growth (Innovate UK EDGE yn flaenorol) yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra sy’n canolbwyntio ar arloesi, rhyngwladoli a thyfu. Yn agored i fusnesau bach a chanolig uchelgeisiol, arloesol sydd am dyfu.

Ariannwyd gan Innovate UK

SMART

Mae SMART Innovation yn cynnig cyngor ac ymgynghoriaeth arbenigol i fusnesau yng Nghymru. Mae’n cynnig diagnosteg cynhyrchiant neu ddylunio ac yn cynnig gweithredu argymhellion lle bo hynny’n briodol.

Ariannwyd gan Lywodraeth Cymru

Future Foods (Bwyd a Diod)

Nod Future Foods yw darparu arbenigedd mewn gwyddor bwyd, ymchwil a datblygu ar dechnoleg a maeth i fusnesau bwyd a diod uchelgeisiol sy’n cydgyfeirio yng Nghymru – busnesau sy’n ceisio datblygu cynhyrchion iach i’r farchnad. Dewch o hyd i ystod o arbenigwyr academaidd ac arbenigwyr eraill ym meysydd maeth, bwyd a diod.

*Ariennir y prosiect hwn trwy Gronfa Datblygu Gwledig Ewrop (ERDF) a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac fe’i gyflwynir trwy Brifysgol Aberystwyth a BIC Innovation trwy’r clwstwr NutriWales.

AHFES (Bwyd a Diod)

Mae prosiect yr Atlantic Area Healthy Food EcoSystem yn anelu i helpu busnesau bwyd a diod bach a chanolig o Gymru i ddatblygu cynhyrchion newydd, iachach trwy ddarparu hyfforddiant a gwasanaethau arloesi.

Ariannwyd gan Interreg

ValuSect (Bwyd a Diod)

Nod consortiwm ValuSect yw cryfhau cydweithredu ac ecsbloetio’r ymchwil ar bryfed fel adnoddau ar gyfer datblygu cynhyrchion bwyd sydd bron wedi’u gorffen.

Ariannwyd gan Interreg

Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru

Mae gan ein tîm o ymgynghorwyr bwyd amaeth sgiliau ac arbenigedd technegol, gweithredol, masnachol a strategol y maent wedi’u datblygu ers blynyddoedd o weithio ar lefelau uchel o fewn y diwydiant bwyd. Maent yn gweithio gyda Bwyd a Diod Cymru i ddarparu ystod o gymorth wedi’i ariannu megis cymorth allforio, barod i fuddsoddi ac ymchwil i’r farchnad

Sgiliau Bwyd Cymru (Food & Drink)

Mae’r rhaglen yn cynnig mynediad (sydd wedi’i ran-ariannu) i hyfforddiant ar gyfer busnesau bwyd a diod o Gymru, er mwyn sicrhau bod gan weithwyr mewn busnesau bwyd a diod y sgiliau a’r hyfforddiant cywir ar gyfer eu busnes. Rydym yn darparu hyfforddiant megis allforio, arweinyddiaeth, rheolaeth, gweithgynhyrchu, gweithrediadau a chyllid.

We work with

Sign up to our newsletter and be the first to hear about news and events from BIC Innovation

This website uses cookies to give you the best user experience. If you choose to continue using this website, you agree to our use of cookies.