RYDYM YN CREU EFFAITH
Rydyn ni'n eich helpu chi i gyflwyno'r neges gywir, i'r bobl gywir, i’r fan gywir ar yr amser cywir...
Yn y byd sydd ohoni heddiw, mae marchnata i’w weld ym mhobman. Amcangyfrifir bod pob person yn gweld rhwng 6,000 a 10,000 o hysbysebion bob dydd. Gyda’r frwydr gyson i ddenu sylw prynwyr, mae angen i fusnesau fod yn greadigol gyda’u marchnata. Nid oes yn rhaid i bob hysbyseb fod ar raddfa enfawr. Ond mae angen strategaeth effeithiol ar gyfer marchnata effeithiol… Ydych chi’n cael eich gweld?
Sicrhewch ddyfodol eich busnes.
Mae marchnata da i’w weld mewn unrhyw fusnes llwyddiannus, ac mae’r cyfan yn dechrau gyda bwriadau eich busnes. Nid yw’n ddatrysiad cyflym, nac yn flaenoriaeth tymor byr. Mae marchnata yn creu ac yn adeiladu perthynas barhaus â’ch cynulleidfa, ac mae angen strategaeth hirdymor i gefnogi twf eich busnes.
Mae gennym ddealltwriaeth drylwyr o strategaeth busnes, Rydym yn defnyddio’r ddealltwriaeth hwn yn ein strategaethau marchnata effeithiol. Gallwn ddarparu’r sgiliau a’r adnoddau i’ch helpu chi i gyflawni eich amcanion marchnata a busnes.
Sut allwn ni eich helpu:
Codi ymwybyddiaeth
Mae strategaeth farchnata effeithiol wedi’i wreiddio’n ddwfn o fewn eich strategaeth busnes. Rydym yn gweithio gyda chi i adnabod a mynegi eich cynnig gwerth, cynulleidfaoedd allweddol, a negeseuon er mwyn sicrhau strategaeth effeithiol.
Gweithgareddau marchnata symlach
Mae cynllun marchnata yn troi’r strategaeth yn gynllun y gellir ei weithredu ar gyfer eich marchnata. Gan ddefnyddio ein hoffer a’n templedi cynllunio marchnata, rydym yn gweithio gyda chi i lunio sut i gyflawni eich amcanion marchnata.
Pâr arall o ddwylo
Rydym yn cynnig mwy na dim ond cynllunio marchnata: gallwn hefyd helpu gyda gweithredu’ch strategaeth farchnata mewn ffordd ymarferol. Gyda chymorth tymor byr a thymor hir ar gael, gallwn ddarparu’r sgiliau a’r adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich uchelgeisiau.
Adnoddau i'ch helpu chi i gyrraedd eich uchelgeisiau
Mae ein tîm marchnata strategol wedi gweithio ar lefelau uchel o fewn diwydiant ac yn cynnig mewnwelediad, craffter busnes a chreadigrwydd i’ch helpu i weithredu’ch cynlluniau marchnata. Rydym yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn monitro effeithiolrwydd y gweithgareddau cyfathrebu, gan roi adborth ichi ar eich strategaethau marchnata.
Gallwn weithio gyda chi am gyfnod estynedig, gan ddarparu tîm marchnata profiadol a chost-effeithiol iawn. Neu gallwn eich helpu gyda’ch gweithgareddau marchnata pan fydd angen pâr ychwanegol o ddwylo arnoch ar gyfer prosiectau penodol. Y naill ffordd neu’r llall, gallwn ddarparu’r sgiliau a’r adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion marchnata a busnes.
Rydym yn gwybod bod cynnal digwyddiadau a chynadleddau yn dod ag amrywiaeth o heriau logistaidd, risgiau a phroblemau annisgwyl. Mae ein rheolwyr digwyddiadau profiadol wedi rheoli digwyddiadau llwyddiannus ledled y byd, o weithdai bach i gynadleddau mawr, aml-ddiwrnod.
- Archwiliadau marchnata
- Lleoli brand
- Cynnig gwerth
- Cynulleidfaoedd a negeseuon allweddol
- Cynlluniau marchnata gweithredadwy
- Gosod amcanion marchnata
- Dadansoddiad SWOT
- Gwerthuso Cymysgedd y Farchnad
- Cyfryngau cymdeithasol
- Marchnata E-bost
- Creu cynnwys
- Brandio a Graffeg
- Dadansoddi amcanion
- Rheoli Risg
- Logisteg digwyddiadau
- Dosbarthu cyn, yn ystod ac ôl-ddigwyddiad
Heriau y gallwn ni eu datrys:
Mae gen i gyllideb gyfyngedig, sut alla i wella fy mhresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol?
Gwelwch: 5 peth y gallwch chi eu gwneud i wella’ch cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn cael anhawster i sicrhau ein bod yn defnyddio ein brand yn gyson rhwng adrannau. Sut all i wella?
Gwelwch: Sut i adeiladu hunaniaeth eich brand gyda chanllaw arddull
Does dim llawer o bobl yn rhyngweithio, ydw i’n defnyddio’r negeseuon cywir i siarad â’m cwsmeriaid?
Gwelwch: Anatomeg persona cwsmer craff
Ein harbenigwyr marchnata a chyfathrebu
Mae ein tîm marchnata strategol wedi gweithio ar lefelau uchel o fewn diwydiant ac yn cynnig mewnwelediad, craffter busnes a chreadigrwydd i’ch helpu chi i ddatblygu a gweithredu’ch cynlluniau marchnata.
Siaradwch â'n tîm
Gadewch inni drafod eich gofynion
Rydyn ni am i chi gael y gorau o’ch cefnogaeth, felly byddwn ni bob amser yn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy raglen wedi’i hariannu byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.