RYDYN NI'N TRAWSNEWID PERFFORMIAD
Rydyn ni'n dod â'n profiad a'n hangerdd i'ch busnes gydag un bwriad: eich helpu chi i ddatgloi'ch potensial llawn.
Mae cynhyrchiant uwch yn golygu llai o gost, mwy o allbwn a defnydd effeithiol o adnoddau. Rhywbeth rydyn ni i gyd eisiau cyflawni ac yn hanfodol mewn unrhyw farchnad gystadleuol. Mae’r cyfle i newid er gwell i’w weld o’n cwmpas yn gyson megis gwella ansawdd, cyflymder neu gost. Ond, gall darganfod y cyfleoedd hynny fod yn anodd o ddydd i ddydd… Mae’n amser edrych ar y darlun ehangach.
Ffordd newydd o weld pethau
Mae’n rhaid cytuno gyda geiriau Dr. Grace Hopper: “The most dangerous phrase in the English language is ‘we have always done it this way “ O wybod hyn, ein man cychwyn ni yw i ofyn y cwestiwn yn wrthrychol “sut allwn ni wneud hyn yn well?”
Wrth gwrs, gall newid fod yn amhrisiadwy i fusnes, ond mae’r gallu i reoli newid yn her gymhleth. Os yw ymgais i newid yn methu, mae’n debyg y rheswm yw oherwydd bod busnes yn methu â deall deinameg newid. Mae’n natur ddynol i ganolbwyntio ar agweddau negyddol newid. Nid yw’n hawdd newid arferion a phatrymau ac mae angen cefnogaeth ddiwyro gan y tîm cyfan. Rydyn ni’n dod â phâr o lygaid ffres a’n profiad perthnasol o’r diwydiant ar gyfer edrych ar bethau mewn ffordd newydd.
Sut allwn ni eich helpu:
Dod yn fwy ystwyth
Mae gwell prosesau yn arwain at fusnes mwy ystwyth. Mae gan ein tîm o arbenigwyr flynyddoedd lawer o brofiad o gynghori ar ddylunio a chynllun ffatri, cynnal adolygiadau diagnostig, darparu cefnogaeth gweithgynhyrchu darbodus a gweithredu arloesedd prosesau
Denu mwy o gwsmeriaid
Gall weithredu systemau ansawdd cynlluniau twf, arwain at fwy o elw, mwy o gwsmeriaid a llai o wastraff. Rydym yn gweithio’n agos gyda chi i ddylunio a gweithredu systemau rheoli ansawdd sy’n cefnogi cynlluniau twf.
Gwella’ch diwylliant gweithio
Mae gweithlu medrus sydd â’r cymhelliant i sicrhau twf yn hanfodol mewn unrhyw farchnad gystadleuol. Eich pobl chi yw’ch ased mwyaf gwerthfawr. Gallwn weithio gyda chi i nodi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ac i baratoi’ch gweithlu ar gyfer newid.
Ffrind gonest: dim ofn i herio’r drefn
Rydym yn herio rhagdybiaethau ac yn cynnig awgrymiadau yn seiliedig ar arferion gorau’r diwydiant, gan roi’r amser a’r adnodd i chi feddwl drwyddynt, ymchwilio a datblygu cynlluniau gweithredu gyda chylchred o welliant cyson.
Mae ein tîm profiadol yn cynnwys ystod eang o arbenigwyr sydd wedi gweithio ar draws sectorau i drawsnewid prosesau gweithredol. O weithwyr proffesiynol AD i gynghorwyr cynllun ffatri medrus. Mae ein harbenigwyr hefyd yn brofiadol mewn ystod o safonau achrededig, gan gynnwys ISO 9001, BRC, a SALSA.
- Rheoleiddio a chydymffurfio
- Dylunio a gweithredu system AD
- Archwiliadau polisi
- Rheoli Newid
- Archwiliad sgiliau a dadansoddiad anghenion hyfforddi
- Datblygu Talent
- Aliniad Arweinyddiaeth
- Rheoli Perfformiad
- Dylunio a gweithredu system
- Rheoleiddio a chydymffurfio
- Achrediadau
- Sefydlu rheolaethau gweithredol
- Cymorth gweithgynhyrchu darbodus
- Cynllun a dyluniad ffatri
- Archwilio, dylunio a gweithredu prosesau
- Adolygiadau diagnostig
Heriau y gallwn ni eu datrys:
Rydym yn fusnes bach gyda chyllideb gyfyngedig, sut gallwn gefnogi lles ein tîm?
Gweler: Iechyd Meddwl a Lles – pam mae angen iddo fod ar frig yr agenda fusnes
Sut y gallaf reoli ein data cwsmeriaid yn fwy effeithlon fel ein bod yn gweithio’n gallach, ac yn gallu gweithredu strategaethau monitro a datblygu?
Gweler: 5 ffordd y gall system CRM eich helpu i dyfu eich busnes
Mae gennym swydd wag i’w lenwi ond does dim diddordeb yn ein hysbyseb swydd. Beth allwn ni wneud i wella?
Ein Harbenigwyr Gweithrediadau a Chynhyrchiant:
Mae gennym dîm o reolwyr gweithredol profiadol sy’n arbenigo mewn ystod eang o arbenigeddau ar draws sawl sector ac sy’n cefnogi busnesau yn rheolaidd i drawsnewid eu perfformiad i gefnogi twf.
Siaradwch â'n tîm
Gadewch inni drafod eich gofynion
Rydyn ni am i chi gael y gorau o’ch cefnogaeth, felly byddwn ni bob amser yn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy raglen wedi’i hariannu byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.