Rydym yn adeiladu strategaethau

Rydym yn ddatryswyr problemau sy'n ymroddedig i atebion twf craff.

Yn union fel mae peirianwyr awyrofod yn adeiladu modelau o awyrennau i weld a ydyn nhw’n hedfan, ac mae peirianwyr strwythurol yn adeiladu modelau o bontydd i weld a ydyn nhw’n sefyll, mae adeiladu model o’ch busnes yn profi sut y bydd yn gweithio. Bydd model effeithiol yn eich atal rhag gwneud camgymeriadau costus ac yn eich helpu i gynllunio ar gyfer cyfleoedd newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg… A yw’ch busnes wedi’i adeiladu ar sylfeini cryf?

Business Planning Session

Mae strategaeth a llwyddiant yn mynd law yn llaw

Mae modelu rhan o’ch busnes, segment cwsmer newydd, marchnad newydd, neu gynnyrch/gwasanaeth newydd, yn caniatáu i chi addasu rhai rhagdybiaethau sylfaenol ynghylch sut mae’r busnes yn cael ei redeg, er enghraifft sut mae’n creu gwerth ac i bwy? Gellir nodi’r goblygiadau o newid neu ddatblygu model busnes yn hawdd o ran yr adnoddau allweddol sy’n ofynnol, neu weithgareddau i’w cyflawni er mwyn cyflawni’r gwerth hwnnw.

Mae modelu busnes yn disgrifio sut mae busnes yn creu gwerth, sut mae’n darparu gwerth a sut mae’n dal gwerth er mwyn sicrhau twf proffidiol cynaliadwy. Mae’r strategaeth busnes yn nodi’r cyfeiriad y dylai’r busnes fynd, ei fwriad a’i uchelgeisiau; yna, yn cynllunio ar gyfer sut y bydd y busnes yn gweithio tuag at y bwriadau a’r uchelgeisiau hynny. Rydym yn helpu ein cleientiaid i ddod â chreadigrwydd i’w meddylfryd strategol, a throi’r syniadau hynny’n werth i’r busnes.

Sut allwn ni eich helpu:

01.

Mwy o wytnwch

Mae cael strategaeth yn hanfodol i fusnesau llwyddiannus ac yn torri ar draws holl swyddogaethau gweithredol. Rydym yn eich helpu i ddod â chreadigrwydd i’ch meddylfryd strategol, ychwanegu gwerth a meithrin gwytnwch.

02.

Bod yn fwy cystadleuol

Heb os nag oni bai – mae data da yn arwain at benderfyniadau gwybodus ac felly penderfyniadau gwell. Mae gan ein tîm ddealltwriaeth drylwyr o ddefnyddio data i nodi a manteisio ar gyfleoedd marchnad.

03.

Helpu gyda sefyllfaoedd anodd

Bydd y mwyafrif o fusnesau yn wynebu problemau annisgwyl neu bwynt argyfwng. Mae ein tîm o arbenigwyr yn ddatryswyr problemau profiadol gyda sgiliau ac arbenigedd technegol, gweithredol, masnachol a strategol, a ddatblygwyd o flynyddoedd o weithio ar lefel uchel.

Rydym yn eich helpu i oresgyn heriau gydag atebion ymarferol wedi'u teilwra i'ch anghenion chi.

Os yn fusnes newydd sy’n edrych i archwilio modelau busnes, neu’n fusnes sefydledig sy’n edrych i wneud pethau’n wahanol. Gallwn helpu gyda darganfod a mynd i’r afael â materion beirniadol, dod â chreadigrwydd i’ch strategaeth ac adeiladu dyfodol mwy gwydn.

Fel y profir yn 2020, does dim ots faint o gynllunio na rhagweld, mae’n amhosib rhagweld beth sydd rownd y gornel. Fodd bynnag, mae un peth yn sicr, mae busnesau’n gwynebu cyfnod heriol; ond y rhai ystwyth, arloesol a gwydn yw’r rhai a fydd nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu ac yn tyfu. Rydym yn eich helpu i adeiladu cynlluniau cadarn a fydd yn sicr o bara.

1. Strategaeth Busnes

  • Cyngor ar adeiladu gwytnwch
  • Datblygu partneriaethau strategol
  • Diffinio’ch Gweledigaeth a’ch Bwriad
  • Ychwanegu gwerth er mwyn bod yn fwy cystadleuol

2. Cynllunio Busnes

  • Astudiaethau ymarferoldeb
  • Datblygu model busnes
  • Datblygu Cysyniad
  • Cynllunio ar gyfer cyfleoedd newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg

3. Mewnwelediad a Gwybodaeth

  • Mewnwelediadau defnyddwyr
  • Adolygiadau technoleg
  • Adroddiadau marchnad
  • Mynediad at wybodaeth

4. Datrys Problemau

  • Adnabod a datrys problemau
  • Helpu gyda sefyllfaoedd anodd
  • Datrys problemau tymor byr
  • Rheoli Risg

Strategy Planning on Whiteboard

Heriau y gallwn ni eu datrys:

01.

Rydym yn datblygu ein strategaeth fusnes, pa gamau y gallwn eu cymryd i sicrhau ei fod yn effeithiol?

Gweler: Ein dulliau i atal perfformiad gwael…

02.

Mae angen i mi gynnal ymchwil marchnad ar gyfer syniad am gynnyrch newydd; sut mae cychwyn arni?

Gweler: Peidiwch â thybio! Sut i ddechrau gydag ymchwil marchnad a mewnwelediadau

03.

Rydym yn mynd trwy gyfnod o newid yn y busnes, sut y gallwn werthuso’r dylanwadau allanol yr ydym yn gweithredu o fewn?

Gweler: PESTEL – Techneg amhrisiadwy cynllunio strategol?

Ein Harbenigwyr Cynllunio a Strategaeth

Mae gan ein tîm o arbenigwyr sgiliau ac arbenigedd technegol, gweithredol, masnachol a strategol y maent wedi’u datblygu ers blynyddoedd o weithio ar lefelau uchel o fewn y diwydiant.

Cyfarwyddwr Gweithredol
Executive Director
Arbenigwr Arloesi a Thwf
Siaradwch â'n tîm

Gadewch inni drafod eich gofynion

Rydyn ni am i chi gael y gorau o’ch cefnogaeth, felly byddwn ni bob amser yn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy raglen wedi’i hariannu byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.

We work with