rydym yn hyrwyddo arloesedd
Rydym yn hyrwyddo meddwl beirniadol i oresgyn rhwystrau a wynebir gan fusnesau arloesol.
Mewn byd sy’n esblygu o hyd, gall arloesi fod yn allweddol i’ch busnes. Ond, mae arloesi yn fwy na dim ond syniadau da. Mae’n ymwneud â sicrhau diwylliant o arloesi, fel bod gennych ffordd o weithio sy’n sicrhau canlyniadau masnachol, dro ar ôl tro. Felly, gadewch inni ofyn, a ydych chi wedi derbyn y pŵer o arloesi?
Mae arloesi yn dod mewn sawl lliw a llun
Rydym i gyd yn gyfarwydd gyda’r dywediad ‘the best thing since sliced bread, sy’n dyst i’r ffaith bod Ymchwil a Datblygu ac Arloesi yn dod ym mhob lliw a llun a ddim yn benodol ar gyfer y gwyddonwyr ym mhencadlys NASA, credwch neu beidio! Ond ni ddaeth y datblygiad syml hwn yn gysylltiedig â chewri fel NASA ar hap. Fel pob arloesedd llwyddiannus, cymerodd wytnwch, strategaeth a meddwl cry’.
Does dim ots pa mor fach neu fawr yw eich busnes, pa bynnag siâp a maint a ddaw, mae Arloesi ac Ymchwil a Datblygu yn gyffrous ac yn wahanol i fusnes arferol, ac mae bob amser yn gofyn am gyd-weithio. Er mwyn llwyddo, mae angen iddo wedi ei annog, mae angen iddo sichrau canolbwyntio, ac mae angen iddo fod yn strwythuredig. Mae’n fenter gymhleth sy’n torri ar draws pob agwedd o’r busnes, ac sydd angen y meddylfryd, y strategaeth a’r prosesau cywir. Efallai’n wir fod hwn i gyd yn swnio’n eitha’ brawychus, ac efallai y bydd angen sgiliau ac arbenigedd nad oes gennych chi yn y busnes – ond dyma le gallwn ni eich helpu.
Sut allwn ni eich helpu:
Lleihau risg
Mae strategaeth gadarn yn darparu eglurdeb a phroses, ac yn lleihau’r risg y bydd eich gweithgaredd Ymchwil a Datblygu yn ynysig a datgysylltiedig. Rydym yn gweithio’n rheolaidd gyda busnesau ar sail fanwl, estynedig, i lywio a sefydlu strategaeth Ymchwil a Datblygu.
Cynyddu’r siawns o lwyddiant
Mae rheoli arloesedd yn elfen allweddol wrth strwythuro i arloesi’n effeithiol. Rydym yn eich galluogi i fachu ar gyfleoedd ar gyfer cynhyrchion a phrosesau newydd, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r farchnad.
Mynediad cyflym i’r farchnad
Mae parodrwydd i’r farchnad yn sicrhau bod busnes yn barod i lansio ei arloesedd i’r farchnad. Gallwn eich helpu i wneud y cysylltiadau angenrheidiol er mwyn datblygu’ch syniadau ymhellach drwy ffurfio partneriaethau cydweithredol neu gynghreiriau strategol.
Yma i’ch helpu chi wneud pethau'n wahanol
Rydym yn annog busnesau sydd â photensial i dyfu i ddatblygu cynhyrchion neu wasanaethau arloesol a arweinir gan Ymchwil a Datblygu. Rydym yn galluogi busnesau i adnabod cyfleoedd newydd yn llwyddiannus, rheoli newid a datblygu’n llwyddiannus trwy gynhyrchion neu brosesau newydd.
Mae ein map Ymchwil a Datblygu yn lasbrint sydd wedi’i brofi ar gyfer gweithredu diwylliant o arloesi yn eich busnes. Mae wedi cefnogi llawer o fusnesau i greu strategaeth ymchwil a datblygu cadarn, hyd at ddatblygu cynllun tactegol ar gyfer ei weithredu. Rydym yn helpu i adnabod adnoddau a galluoedd y gallai eu gwella er mwyn eich galluogi i gyflawni strategaeth Ymchwil a Datblygu tymor byr, tymor canolig a thymor hir.
- Cynhyrchu a mireinio syniadau
- Ymchwil a Datblygu Cydweithredol
- Cyngor ar fynediad at ryddhad treth
- Datblygu cynnyrch newydd
- Mynediad at gyllid
- Medrau Arloesi
- Goresgyn Rhwystrau
- Hyfforddiant Arloesi
- Amddiffyn a Manteisio ar Eiddo Deallusol
- Adeiladu gwybodaeth am y farchnad
- Deall y potensial masnachol
- Aliniad i’r farchnad
- Datblygu’r gadwyn gyflenwi
- Darganfod Arbenigedd
- Allanoli
- Rheoli cylch-bywyd cynnyrch
Heriau y gallwn ni eu datrys:
Mae gan ein tîm lawer o syniadau gwych, ond rwy’n ei chael hi’n anodd nodi’r cysyniadau mwyaf manteisiol sy’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau?
Gweler: Cael gwared ar gysyniadau…
Sut mae sicrhau bod arloesedd yn cael ei reoli mewn ffordd strwythuredig?
Gweler: Sut dwi’n sicrhau bod arloesedd yn cael ei reoli’n strategol?
Mae ein dull datrys problemau grŵp yn aml yn aneffeithiol. Sut allwn ni ddod o hyd i ffordd well o gynhyrchu syniadau newydd?
Ein Harbenigwyr Arloesedd ac Ymchwil a Datblygu
Mae ein harbenigwyr Arloesedd ac Ymchwil a Datblygu yn gweithio’n agos gyda chwmnïau i’w helpu i wneud pethau’n wahanol ac i fachu ar gyfleoedd a allai fodoli ar gyfer newid strategol trwy gynhyrchion a phrosesau newydd.
Siaradwch â'n tîm
Gadewch inni drafod eich gofynion
Rydyn ni am i chi gael y gorau o’ch cefnogaeth, felly byddwn ni bob amser yn sicrhau eich bod chi’n derbyn y gefnogaeth wedi’i theilwra i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy raglen wedi’i hariannu byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.