I FUSNESAU
Dysgu newid er mwyn tyfu
Sut rydyn ni'n gweithio gydag asiantaethau'r sector cyhoeddus?
Ein Proses
Er fod pob un o’n prosiectau yn unigryw ac yn cynnig cefnogaeth sydd wedi’i deilwra ar eich busnes chi, mae gennym ni ddull sydd eisioes wedi’i brofi. Mae ein prosesau achrededig ISO 9001 ar waith i sicrhau eich bod yn cael y canlyniadau yr ydych yn eu haeddu. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth gychwyn ar eich taith gyda ni:
Adnabod
O’ch cyfarfod cyntaf gyda ni, fe fydd ein brwdfrydedd a’n diddordeb yn amlwg. Byddwn yn dod i’ch adnabod, ac yn deall eich anghenion, eich bwriadau a’ch heriau. Mae cyswllt cychwynnol fel arfer trwy e-bost, ffôn neu alwad rithiol lle byddwn yn archwilio’ch gofynion.
Trywydd
Rydym yn gwybod bod anghenion pawb yn wahanol. Byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r tîm sydd fwyaf cymwys ac addas i’ch heriau chi. Yn yr un modd, os ydym yn teimlo nad ni yw’r bobl iawn i’ch helpu, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cyfeirio at y gefnogaeth berthnasol.
Trylwyr
Os ydych yn penderfynu eich bod am weithio gyda ni, byddwn yn trefnu sesiwn holi manylach. Byddwn yn eich holi’n drylwyr am eich anghenion ac yn anelu at gael dealltwriaeth fanwl o’ch heriau. Dyma le byddwn yn diffinio cwmpas y prosiect, yn gosod amcanion ac yn cyflwyno targedau allweddol.
Dechrau ar eich taith
Gyda chynllun o gefnogaeth bellach ar waith, rydyn ni’n dod â’n hangerdd, ein harbenigedd a’n datrysiadau i’ch busnes chi. Rydyn ni wrth ein boddau yn torchi ein llewys a mynd at wraidd yr her. Fel ffrind beirniadol, does dim ofn gennym ni i herio’r drefn. Wedi dweud hynny, fe fyddwn bob amser yn cynnig atebion ymarferol i chi, wedi’u teilwra i anghenion eich busnes.
Gwreiddio, Meithrin, Tyfu
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chi fel aelodau estynedig o’ch tîm, gyda’r un angerdd i chi lwyddo a ffynnu. Wrth i’ch busnes barhau i dyfu bydd uchelgeisiau a chyfleoedd newydd yn dod i’r amlwg. Byddwn yn barod I addasu ein cefnogaeth I adlewyrchu heriau newydd. Byddwn yno pan fyddwch ein hangen – gallwch chi ddibynnu arnom fel eich ffrind beirniadol.
Os oes angen help arnoch i ddewis y gwasanaeth cywir i fynd â’ch busnes i’r lefel nesaf, rhowch alwad i’n tîm heddiw.
Rydym yn credu mewn newid
Os ydych chi’n tyfu busnes neu’n edrych i weithredu newid, byddwch eisioes yn gwybod nad yw’n dod heb ei risgiau a’i heriau. Ond, mae newid hefyd yn dod â chyfleoedd, gwytnwch, a dyfodol mwy disglair.
Gallwn eich helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn uniongyrchol, trwy weithio gyda chi i ddarparu atebion sydd wedi’u teilwra er mwyn goresgyn y rhwystrau o dyfu. Bydd hyn yn eich galluogi i fwynhau eich taith twf gyda brwdfrydedd a chyffro a llai o risg.
Rydym yn hyrwyddo arloesedd
Rydym yn adeiladu strategaethau
Rydyn ni'n trawsnewid perfformiad
Rydyn ni'n archwilio marchnadoedd newydd
Marchnata a Chyfathrebu
Rydym yn cyflymu tŵf
Rhaglenni a Ariennir
Cefnogaeth sydd wedi'i deilwra ar gyfer eich busnes chi drwy raglenni wedi'u hariannu, a ddarperir trwy ein tîm o arbenigwyr…
Mae rhai o’r gefnogaeth rydym yn ei ddarparu ar gael trwy raglenni a ariennir. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy un o’n rhaglenni a ariennir, cewch wybod ganddom.