Credwn mewn Newid
Yma i’ch helpu chi i gyflawni eich uchelgeisiau tyfu drwy gyngor arbenigol a strategaethau arloesol.
Credwn y gall pob sefydliad newid er gwell. Rydyn ni'n gweld enghreifftiau o hyn bob dydd ac yn gwneud hyn yn realiti i'n cleientiaid ar draws sawl sector. Dyma pam rydyn ni’n credu mewn newid
Rydym yn hyrwyddo arloesedd
Trowch eich syniadau yn realiti masnachol trwy ddatblygu a gweithredu strategaethau ymchwilio a datblygu cadarn, drwy ddefnyddio ein hoffer a’n technegau arloesi dibynadwy.
Rydym yn adeiladu strategaethau
Dewch â chreadigrwydd i’ch meddwl strategol, blaenoriaethwch eich syniadau a defnyddiwch y syniadau hynny er budd i’ch busnes, fel eich bod nid yn unig yn gallu goroesi, ond yn ffynnu hefyd.
Rydyn ni'n trawsnewid perfformiad
Cyraheddwch eich potensial gyda diagnosis, dylunio a gweithredu proses arloesedd a fydd yn cynyddu eich cynhyrchiant ac yn gwella perfformiad.
Rydyn ni'n archwilio marchnadoedd newydd
Strwythurwch eich busnes ar gyfer twf byd-eang trwy gysylltu â’r partneriaid cywir, adeiladu cadwyni cyflenwi effeithiol a diffinio’ch strategaethau mynediad i’r farchnad.
Rydyn ni'n creu ardrawiad
Trowch eich uchelgais busnes yn strategaethau marchnata effeithiol, nodwch ac eglurwch eich gwerthoedd, diffiniwch eich cynulleidfaoedd, a mynegwch y negeseuon allweddol.
Rydym yn cyflymu tŵf
Sicrhewch fod eich busnes yn addas trwy weithredu cynlluniau twf strategol sy’n eich helpu i oresgyn unrhyw rwystrau gan sicrhau bod eich busnes yn barod ar gyfer buddsoddi.
Mae’r canlyniadau’n glir
Dylunio a gweithredu rhaglenni’n effeithiol i drawsnewid ymgysylltiad y sector cyhoeddus â busnesau bach a chanolig, gan sicrhau canlyniadau diriaethol sy’n tyfu busnesau cynaliadwy.
Rhaglenni a Ariennir
Cefnogaeth sydd wedi'i deilwra ar gyfer eich busnes chi drwy raglenni wedi'u hariannu, a ddarperir trwy ein tîm o arbenigwyr…
Mae rhai o’r gefnogaeth rydym yn ei ddarparu ar gael trwy raglenni a ariennir. Os ydych chi’n gymwys i gael cefnogaeth trwy un o’n rhaglenni a ariennir, cewch wybod ganddom.
Ein Harbenigwyr
Mae ein tîm wrth eu bodd gyda sialens...
Mae ein tîm ar eu gorau wrth helpu busnesau i arloesi, uwchraddio, gwella neu oresgyn heriau cymhleth. Rydyn ni’n dod â’n sgiliau, ein profiad a’n hangerdd i’ch busnes gydag un nod mewn golwg: i’ch helpu i gyflawni eich uchelgeisiau tŵf.
Fel ffrind beirniadol, does dim ofn gennym ni i herio’r drefn. Wedi dweud hynny, fe fyddwn bob amser yn cynnig atebion ymarferol i chi, wedi’u teilwra i anghenion eich busnes. Rydym yn wneuthurwyr, meddylwyr, cynhyrchwyr syniadau a chwaraewyr tîm. Y gwneud sydd yn bwysig nid y dweud.
Newyddion a Digwyddiadau
Mewnwelediadau sy’n ysbrydoli, syniadau sy’n herio, ymchwil sy’n addysgu.
Casgliad o’n newyddion a’n herthyglau diweddaraf, mewnwelediadau, ymchwil a lleisiau aelodau ein tîm; yn ogystal â manylion am ble y gallwch ddod o hyd i ni mewn digwyddiadau a chynadleddau.